Taflod y genau (neu daflod ar ben ei hun, fel arfer; lluosog: taflodydd y genau) yw to ceg bod dynol ac anifeiliaid eraill. Dyma'r hyn sy'n sy’n gwahanu ceudod y geg oddi wrth geudod y ffroenau.[1] Ceir strwythur tebyg mewn crocodeilod a'u tebyg, ond mewn anifeiliaid pedwartroed, fel arfer, nid yw'r ddau geudod yn gwbwl ar wahân. Mae dwy ran i'r daflod: y rhan flaen ('taflod galed') a'r rhan gefn ('taflod feddal' neu 'felwm').[2]

Taflod, gan amlygu'r torws taflodol (torus palatinus)
Gofal: Erthygl am anatomeg to'r ceg yw hon; am 'daflod' i gysgu ynddo, gweler llofft stabl.

Cofnodwyd y gair (yn yr ystyr anatomegol yma) am y tro cyntaf oddeutu 1566: lladdiad garan y brathū a chyllell yn haflod y genay.[3]

Mae'r nerf genol (sy'n gangen o'r nerf deircainc (trigeminal nerve) yn sicrhau teimlad yn y daflod. Mewn baban newyddanedig, mae'r daflod galed wedi'i ffurfio'n llawn; os nad, yna ceir taflod hollt. Gall y daflod (mewn cydweithrediad â rhannau eraill o'r geg) ffurfio sain, yn enwedig cytseiniaid e.e. seiniau felig, seiniau taflodol, taflodoliadau a seiniau wfwlaidd.[4]


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Wingerd, Bruce D. (1811). The Human Body Concepts of Anatomy and Physiology. Fort Worth: Saunders College Publishing. t. 166. ISBN 0-03-055507-8.
  2. Wingerd, Bruce D. (1994). The Human Body Concepts of Anatomy and Physiology. Fort Worth: Saunders College Publishing. tt. 478. ISBN 0-03-055507-8.
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (GPC); adalwyd 25 Mawrth 2016
  4. Goss, Charles Mayo (1966). Gray's Anatomy. Philadelphia: Lea & Febiger. t. 1201.
  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.