Taith awyren 9525 Germanwings

Taith awyren ryngwladol a drefnwyd i hedfan o Barcelona, Sbaen, i Düsseldorf, yr Almaen, ar 24 Mawrth 2015 oedd taith 9525 Germanwings. Gweithredwyd gan gwmni hedfan cost isel Germanwings, sy'n eiddo i Lufthansa. Daeth yr awyren Airbus A320-200 i lawr tua 60 milltir i'r gogledd-orllewin o Nice, yn yr Alpau Ffrengig. Lladdwyd pob 144 o deithwyr a chwe gweithwyr y cwmni.

Taith awyren 9525 Germanwings
Enghraifft o'r canlynolcwymp awyren, llofruddiaeth torfol, suicide by pilot Edit this on Wikidata
Dyddiad24 Mawrth 2015 Edit this on Wikidata
Lladdwyd150 Edit this on Wikidata
LleoliadPrads-Haute-Bléone Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrGermanwings Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar ôl adennill y cofnodwyr hedfan ("blychau duon"), darganfyddwyd mai llofruddiaeth-hunanladdiad gan cyd-beilot Andreas Lubitz, 27 oed, oedd achos dinistr yr awyren. Ymddengys yr oedd wedi rhaglennu'r awtobeilot i weithredu disgyniad serth, pan oedd y prif beilot, Patrick Sondenheimer, wedi gadael caban y peilotiaid (yn debygol er mwyn ddefnyddio'r tŷ bach). Clodd Lubitz y peilot allan o'r caban, ac aflwyddiannus oedd ymdrechion y peilot i ddefnyddio grym i ailagor y ddrws.

Yn ymateb i'r digwyddiad, sefydlwyd rheol gan nifer o gwmnïau hedfan Ewropeaidd, gan gynnwys y rheini Almeinig, bod rhaid cadw dau aelod o staff yng nghaban y peilotiaid ar bob adeg pan yw awyren yn hedfan. Roedd y rheol hon wedi'i defnyddio'n barod yn UDA.