Tal-y-bont, Maldwyn

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentre bychan yng nghymuned Tre-wern, Powys, Cymru, yw Tal-y-bont[1] (Saesneg: Buttington[2] neu Buttington Cross). Saif yn ardal Maldwyn yng ngogledd y sir, ar lan afon Hafren i'r gogledd-ddwyrain o Drefaldwyn.

Tal-y-bont, Maldwyn
Mathpentref, castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys, Tre-wern Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.671337°N 3.110579°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ2408 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Tal-y-bont (gwahaniaethu).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Hanes golygu

Yn Nhal-y-bont yr ymladdwyd Brwydr Tal-y-bont rhwng cynghrair o Gymry a gwŷr Mersia yn y flwyddyn 893.

Yn 1916 bomiwyd Tal-y-bont gan awyrlong Zeppelin yr Almaenwyr ond ni lladdwyd neb; dyma'r unig dro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf y cafwyd ymosodiad ar Gymru o'r awyr.[5]

 
Y bont ar Gamlas Trefaldwyn, Tal-y-bont

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Reference Wales golygydd John May. Gwasg Prifysgol Cymru, 1994.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.