Tanchwa Senghennydd

damwaith gwaith mwyngloddio, Glofa Universal

Tanchwa Senghennydd oedd y drychineb waethaf yn hanes y diwydiant glo yng ngwledydd Prydain. Digwyddodd ym Mhwll Lancaster, Glofa'r Universal, ym mhentref glofaol Senghennydd, Sir Forgannwg. Digwyddodd y drychineb ar 14 Hydref 1913. Collodd 439 o ddynion a bechgyn y pwll eu bywydau a hynny ar doriad gwawr. Roedd hyn yn dilyn tanchwa cynharach, ar 24 Mai 1901, pan laddwyd 81 o ddynion.

Tanchwa Senghennydd
Mathdamwaith gwaith mwyngloddio Edit this on Wikidata
Nifer a laddwyd439 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadGlofa Universal Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6114°N 3.2813°W Edit this on Wikidata
Cod OSSP806757 Edit this on Wikidata
Map
Cyfnod14 Hydref 1913 Edit this on Wikidata
Gweler hefyd y dudalen gwahaniaethu, Senghennydd.

Y ffrwydrad yw'r ddamwain cloddio gwaethaf yng Nghymru erioed.[1][2] Roedd yn cynhyrchu glo ar gyfer peiriannau stêm neu ager, yn bennaf, ac roedd ynddo lawer o losgnwy (methan ac ocsigen gan fwyaf), nwy frwydrol iawn.

Yn yr ymchwiliad a ddilynodd y tanchwa, dywedwyd i'r rheolwr Edward Shaw a'r perchnogion fod yn esgeulus. Dirwywyd Shaw £24 a'r cwmni £10. Mae hyn yn cyfateb a gwerth bywyd o 5 ceiniog y person.

Tanchwaoedd Senghennydd blaenorol golygu

Tanchwa gyntaf Senghennydd golygu

Ar 24 Mai 1901 lladdwyd 81 o ddynion pan gafwyd tri ffrwydriad o dan y ddaear. Cafwyd ymchwiliad i'r drychineb ac ôl yr adroddiad roedd llawer gromod o lwch glo yn yr aer, a dim digon o ddŵr i'w gadw dan reolaeth. Dywedwyd hefyd fod llawer o fesurau diogelwch wedi eu torri gan y perchnogion.[4][5]

Ail danchwa Senghennydd golygu

Tua deuddeg mlynedd ynghynt, ym Mai 1901, bu tri ffrwydrad yn y lofa hon pan laddwyd 81 o bobl. Yn y cwêst dywedwyd mai'r achos pam y lladdwyd cymaint gan y ffrwydriad oedd fod cymaint o lo mân ar ffurf llwch yn yr awyrgylch - sydd fel arfer yn cario'r ffrwydriad lawer pellach drwy'r twneli. Ni chanfyddwyd achos ffrwydriad Senghennydd yn 1913 ond y farn gyffredinol yn y cwêst oedd mai offer signalu trydan oedd ar fai, gan danio'r nwyon. Medrwyd symud y dynion yn rhan ddwyreiniol y pwll allan yn saff, ond llosgwyd llawer o weithwyr y rhan orllewinol, a lladdwyd llawer gan y nwy carbon monocsid yn union wedi'r ffrwydriad.

Ataliwyd achub llawer o'r dynion gan y tanau - a gymerodd dros deuddydd i'w rheoli a 6 wythnos i'w diffodd; chymerodd 6 wythnos i'r achubwyr gludo'r cyrff allan i olau dydd.

Cofebion golygu

Yn 1981 dadorchuddwyd gofeb i'r rhai a fu farw yn y drychineb, gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol; fe'i lleolwyd y tu allan i Ysgol Gynradd Nant-y-parc ar safle'r hen bwll glo. Mae'r gofeb yn replica 20 feet (6 m) o gêr weindio'r pwll.[6]

Cafodd ail gofeb ei dadorchuddio yn 2006 i'r meirw o ffrwydrad cyntaf (1901) a'r ail (1913).[7]

Llyfryddiaeth golygu

  • John H. Brown, The Valley of the Shadow: An Account of Britain's Worst Mining Disaster, the Senghennydd Explosion (Port Talbot, Alun Books, 1981)
  • Rhydwen Williams, Amser i Wylo (Abertawe, 1986). Nofel rymus yn seiliedig ar y drychineb.
  • Gareth F. Williams, Cwmwl dros y Cwm (Y Lolfa, 2013). Nofel i bobl ifanc am y drychineb.
  • Jen Llywelyn, Remember Senghenydd: The Colliery Disaster of 1913 (Gwasg Carreg Gwalch, 2013)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.amgueddfacymru.ac.uk/erthyglau/2012-07-06/Bywydau-Glowyr-yn-werth-5c-yr-un-Ymgynghoriad-y-Llywodraeth-i-drychineb-Senghennydd-1913/
  2. "'Bywydau Glowyr yn werth 5½c yr un': Ymgynghoriad y Llywodraeth i drychineb Senghennydd 1913", Amgueddfa Cymru; adalwyd 27 Gorffennaf 2023
  3. "The Burning Pit Disaster: Rescue Scenes at the Universal Colliery". The Illustrated London News. 18 Hydref 1913. t. 4.
  4. Duckham & Duckham 1973, tt. 160–61.
  5. Redmayne, Williams & Smillie 1914, t. 31.
  6. http://your.caerphilly.gov.uk/abervalleyheritage/visit-us/heritage-trail
  7. Jeanne Parry, "Dead Remembered", South Wales Echo, 13 Hydref 2006