Mae tandem yn fath o feic (a weithiau treic) sydd wedi ei ddylunio i gario dau berson. Mae'r term tandem yn cyfeirio at y trefniant seddu, (un tu ôl i'r llall yn hytrach nag ochr yn ochr) yn hytrach na'r nifer o reidwyr.

Hanes golygu

Yn wreiddiol, adeiladwyd tandems gan asio dau ffram beic gyda'i gilydd i greu beic dau berson. Mae Patentau sy'n ymwneud â beiciau tandem yn dyddio o ddiwedd y 19g.[1] Mae technoleg gyfoes wedi gwella cynllun fframiau a darnau ac mae tandem modern wedi ei adeiladu i'r un ansawdd a beic mynydd neu feic rasio ffordd cyfoes.

Perfformiad golygu

Tra bod gan dandem ddwywaith y pŵer pedalu, ac ond ychydig fwy o golled ffrithiant yn y gadwyn, mae ganddo'r un gwrthiant gwynt a beic arferol a gallent bwyso llai na dwywaith beic arferol felly gall y cymhareb pŵer i bwysau fod yn debyg i feic sengl. Gall tandems gyrraedd cyflymderau cymharol gyflym, yn arbennig ar dirwedd gwastad, lawr allt neu rholio. Nid ydynt o reidrwydd yn arafach ar elltydd chwaith ond mae hyn i'w weld yn wir weithiau, yn rhannol oherwydd yr angen am lefel uchel o gydsymud sydd ei angen rhwng y reidwyr er mwyn peidio gwastraffu pŵer, yr arbennig os ydy gallu corfforol y ddau reidiwr yn wahanol iawn ac yn gofyn am gyfaddawdau cadens neu'r lefel o ymdrech.

Terminoleg golygu

Ar dandem confensiynol, mae'r reidiwr ar y blaen yn llywio'r beic. Adnabyddir ef fel y capten, y peilot neu'r llywiwr; y rediwr ar y cefn yw'r taniwr neu'r ôl-lyngesydd. Ar y rhan fwyaf o'r tandemau mae dau set o granciau sydd wedi eu cysylltu'n fecanyddol trwy'r gadwyn ac yn troi ar yr un cyflymder.

Defnydd golygu

Defnyddir tandem yn aml mewn cystadlaethau megis y Gemau Paralympaidd gyda thanwyr dall a rhai sydd â golwg wedi amharu sydd angen captan â golwg llawn.

 
Beic tandem annibynnol.
 
Beic tandem gorweddol.

Amrywiadau golygu

Pedalu Annibynnol

Mae rhai cynlluniau megis y DaVinci yn galluogi pedalu annibynnol gyda defnydd nifer o olwynion-rhydd. Mewn cynllun arall, mae'r reidiwr ar y cefn yn gyrru'r olwyn ôl gyda'r pedalau ac mae'r reidiwr ar y blaen yn gyrru'r olwyn flaen gyda'i draed a'i ddwylo.[2]

Trefniadau Seddu
  • Mae'r Opus Counterpoint yn esiampl o dandem sydd yn cael ei lywio gan y rediwr ar y cefn sydd yn eistedd i fyny, tra bod y reidiwr ar y blaen mewn safle gorweddol.
  • Mae beiciau Gorweddol treic tandem hefyd yn dod yn boblogaidd ar draws y byd.
Treiciau

Mae tandem hefyd ar gael ar ffurf treic; mae gan y treic tandem confensiynol ddilyniant bach ond cysegredig ym Mhrydain, ac mae ar gael fel cynllyn â un neu ddwy olwyn yn cael eu gyrru.

Mwy na dau reidiwr

Gall tandem gael mwy na dau reidiwr gan fod y gair yn cyfeirio at y trefniant seddu yn hytrach na'r nifer o reidwyr. Cyfeirir at feiciau ar gyfer tri, pedwar neu bump o reidwyr fel "triphlyg" neu "tripledi", "cwadiau" neu "pedrybledau", a "pumledi". Un sy'n gyfarwydd i nifer o wylwyr teledu ym Mhrydain ydy'r "trandem" a reidwyd gan The Goodies. Tandem dau berson yn wreiddiol gyda sedd ychwanegol "ffug", adeiladwyd beic cyflawn tri person ar eu cyfer gan Raleigh.

Darnau penodol ar gyfer Tandem golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Dulliau reidio penodol ar gyfer Tandem golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cynhyrchwyr Beiciau Tandem golygu

Gan fod y farchnad ar gyfer beiciau tandem yn llai na'r farchnad am feiciau sengl, mae llawer llai o gynhyrchwyr tandem. Mae rhai cynhyrchwyr yn arbenigo mewn adeiladu tandemau yn ogystal â chwmnïau beiciau sengl sy'n cynnig modelau tandem. Mae rhai cynhyrchwyr tandem presennol yn cynnwys:

Gweler hefyd golygu

ffynonellau golygu

  1. Patent Pending Blog: Tandem Bike, 1891
  2. My Invention;Lovely Bike

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: