Tanyfron

pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Pentref yng nghymuned Brymbo,[1] Mwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymru, yw Tanyfron[2] neu Tan-y-fron.[3] Saif i'r gogledd-orllewin o dref Wrecsam, ar ochr gogleddol Afon Gwenfro, yn agos i bentref Glanrafon ("Southsea").

Tanyfron
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1°N 3.1°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ296522 Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Datblygodd Tanyfron yn bennaf er mwyn darparu llety i deuluoedd glowyr. Yn 1806, suddwyd siafftiau cyntaf Pwll Glo'r Vron, yn union i'r gorllewin o'r pentref[4][5] (cymerodd y lofa ei henw o fferm y Vron gerllaw). I gychwyn roedd anheddiad bach o dai glowyr, o'r enw Vron (fersiwn Seisnigedig o'r gair Cymraeg fron). Yn y 1890au cafodd Vron ei gyfuno â phentref i'r dwyrain, o'r enw Tan-y-fron.[6] Gweithiodd y rhan fwyaf o drigolion y pentref yn y pyllau glo Vron neu Plas Power, neu yng Ngwaith Dur Brymbo gerllaw.

Agorwyd eglwys gysegredig i Sant Alban yn 1897 fel capel anwes i eglwys y plwyf yng Nglanrafon. Roedd dau gapel anghydffurfiol yn yr ardal hefyd, sef Mynydd Seion (Wesleaidd, adeiladwyd yn 1896) a Cana (Annibynwyr).

Cafodd y lofa ei gwasanaethau gan ddwy reilffordd, cangen Wrecsam a Mwynglawdd y Great Western Railway a changen o Reilffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug a Chei Connah. Mae arglawdd yr olaf yn bodoli o hyd fel llwybr troed sy'n cael ei adnabod yn lleol fel "y Lein".

Dioddefodd Glofa'r Vron broblemau ariannol trwy gydol ei hanes ac fe'i caewyd yn y pen draw yn 1930.[4] Ar ddiwedd y 1980au cliriwyd tomenni glo, a adnabyddir yn lleol fel y "Bonc". Ar ol i'r lofa gau, y prif gyflogwr lleol oedd y gwaith dur Brymbo. Yn 1976 ehangodd y gwaith dur ar draws y bryn i Danyfron, ond caeodd o yn 1990 gydag effeithiau economaidd difrifol i'r pentref.

Enwogion golygu

Ganed yn Nhanyfron Harold Tudor (1908-1988), swyddog y Cyngor Prydeinig a gafodd y syniad i gychwyn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Y pentref heddiw golygu

Mae gan Tanyfron ysgol gynradd fach. Mae eglwys Sant Alban wedi'i chau. Cafodd tai newydd ei adeiladu yn y pentref yn y 1990au. Yn 2006, roedd protestiadau pan werthwyd hen gae chwarae'r ysgol ar gyfer datblygiad preswyl.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Welcome to Brymbo Community Council". brymbo.org. Cyrchwyd 30 Mehefin 2022.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Gorffennaf 2022
  3. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  4. 4.0 4.1 Welsh Coal Mines, adalwyd 10 Mawrth 2010
  5. D. Rees, The Industrial Archaeology of Wales (David & Charles, 1975), t.115
  6. "The Welsh spelling has in recent years been used for the village of Fron; locally it is generally referred to as ' the Fron'."
  7. "Residents protest at homes plan", BBC Wales, 12 Mawrth 2006