Un o gwmniau'r Tata Group ydy Tata Motors a adnabyddid yn y gorffennol fel TELCO (Tata Engineering and Locomotive Company) ac sydd a'i bencadlys yn Mumbai, India. Mae'n gwmni sy'n canolbwyntio ar gerbydau a moduron, gan gynnwys ceir, faniau, bysus a cherbydau militaraidd.[1]

Tata Motors
Math
cynhyrchydd cerbydau
Math o fusnes
cwmni cyd-stoc
ISININE155A01022
DiwydiantDiwydiant ceir
Sefydlwyd1945
PencadlysMumbai
Cynnyrchlori
Nifer a gyflogir
27,948 (31 Mawrth 2014)
Is gwmni/au
Jaguar Land Rover
Lle ffurfioMumbai
Gwefanhttps://www.tatamotors.com/ Edit this on Wikidata

Mae gan Tata Motors ffatrioedd cynhyrchu cerbydau yn: Jamshedpur, Pantnagar, Lucknow, Sanand, Dharwad, a Pune yn India, yn ogystal ag yn yr Ariannin, De Affrica, gwledydd Prydain a Gwlad Tai. MAe ei ganolfannau ymchwil a datblygu yn Pune, Jamshedpur, Lucknow, a Dharwad, India ac yn Ne Corea. Tata Motors yw perchennog Jaguar Land Rover ers ei brynnu gan gwmni ceir Ford yn 2008, sef gwneuthurwyr y ceir Jaguar a Land Rover, a nifer o gwmniau a mathau eraill o geir.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Financials of Tata Motors Limited". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-16. Cyrchwyd 2016-12-28.