Newyddiadurwraig a gwleidydd o Iemen ac ymgyrchydd dros hawliau dynol yw Tawakkol Abdel-Salam Karman (Arabeg: توكل عبد السلام خالد كرمانTawakkul ‘Abd us-Salām Karmān; hefyd Tawakul,[1] Tawakel;[2][3][4] ganwyd 7 Chwefror 1979).[4] Hi oedd wyneb gyhoeddus Chwyldro Iemen (2011–12), ac fe'i elwir yn "y Ferch Haearn" a "Mam y Chwyldro" gan ei chydwladwyr.[5][6] Derbyniodd Karman Wobr Heddwch Nobel yn 2011, ynghyd ag Ellen Johnson Sirleaf a Leymah Gbowee.[7] Hi yw'r Iemeniad cyntaf, y fenyw Arabaidd cyntaf,[8][9] a'r ail fenyw Fwslimaidd i ennill Gwobr Nobel, a'r unigolyn ieuangaf i ennill y Wobr Heddwch ac eithriad Malala Yousafzai.

Tawakkol Karman
Tawakkol Karman yn 2011.
Ganwyd7 Chwefror 1979 Edit this on Wikidata
Ta'izz Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIemen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethymgyrchydd heddwch, newyddiadurwr, gwleidydd, amddiffynnwr hawliau dynol Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tawakkolkarman.net, https://tkif.org/en/ Edit this on Wikidata

Cyd-sefydlodd y garfan "Newyddiadurwragedd Heb Gadwyni" yn 2005.[1] Daeth Karman i sylw'r cyhoedd yn Iemen trwy ei newyddiaduraeth a'i hymgyrch dros wasanaeth newyddion ffôn symudol a gafodd ei wrthod trwydded yn 2007. Y flwyddyn honno, dechreuodd trefnu ac arwain protestiadau wythnosol o blaid ryddid y wasg.[1][10] Dan ei harweiniad, rhoddwyd cefnogaeth i'r "Chwyldro Jasmin" yn Nhiwnisia (Rhagfyr 2010–Ionawr 2011) a'r Gwanwyn Arabaidd. Gwrthwynebodd Ali Abdullah Saleh, Arlywydd Iemen, yn gyhoeddus.[11]

Yn ôl cebl diplomyddol a ddatgelwyd gan WikiLeaks, er i Karman lladd ar Sawdi Arabia yn gyhoeddus roedd hi hefyd yn trefnu cyfarfodydd dirgel â'r Sawdïaid i ymofyn am eu cefnogaeth. Hi wnaeth canmol Sawdi Arabia am gytundeb trawsnewid llywodraeth a chafodd ei ystyried gan nifer o ddiwygwyr fel brad yn erbyn y chwyldro. Yn ogystal, cyhuddodd Karman yr Arlywydd Abd Rabbuh Mansur Hadi o gefnogi'r Houthi ac Al Qaeda.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Al-Sakkaf, Nadia (17 June 2010). "Renowned activist and press freedom advocate Tawakul Karman to the Yemen Times: "A day will come when all human rights violators pay for what they did to Yemen"". Women Journalists Without Chains. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-30. Cyrchwyd 30 January 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Evening Times (Glasgow). Arrest Sparks Protest. 24 January 2011. Retrieved 8 October 2011 from the Lexis-Nexis Database.
  3. Emad Mekay. Arab Women Lead the Charge. Inter Press Service (Johannesburg), 11 February 2011. Retrieved 8 October 2011 from the Lexis-Nexis Database.
  4. 4.0 4.1 "Yemen laureate figure of hope and controversy". Oman Observer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-12. Cyrchwyd 15 November 2011.
  5. Macdonald, Alastair (7 October 2011). "Nobel honours African, Arab women for peace". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-09. Cyrchwyd 16 November 2011.
  6. Al-Haj, Ahmed; Sarah El-Deeb (7 October 2011). "Nobel peace winner Tawakkul Karman dubbed 'the mother of Yemen's revolution'". Sun Sentinel. Associated Press. Cyrchwyd 8 October 2011.
  7. "Nobel Peace Prize awarded jointly to three women". BBC Online. 7 October 2011. Cyrchwyd 16 November 2011.
  8. "Profile: Nobel peace laureate Tawakul Karman". BBC Online. 7 October 2011. Cyrchwyd 16 November 2011.
  9. "Yemeni Activist Tawakkul Karman, First Female Arab Nobel Peace Laureate: A Nod for Arab Spring". Democracynow.org. Cyrchwyd 10 December 2011.
  10. "Renowned activist and press freedom advocate Tawakul Karman to the Yemen Times:"A day will come when all human rights violators pay for what they did to Yemen."". Yemen Times. 3 November 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-05. Cyrchwyd 15 November 2011.
  11. "New protests erupt in Yemen". Al Jazeera. 29 January 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 January 2011. Cyrchwyd 30 January 2011.
  12. yemenanon (27 June 2015). "Tawakul Karman turns to Saudi in 2011". Cyrchwyd 13 December 2016.