Tbilisi

prifddinas Georgia

Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Georgia, ar lannau afon Kura (Mtkvari) yn nwyrain y wlad, yw Tbilisi (Georgeg: თბილისი). Daw'r ffurf bresennol ar yr enw o'r enw Georgeg Tpilisi sy'n tarddu o'r enw Armenieg Teplis a'r enw Groeg Tiflis; benthycwyd yr olaf i'r Rwseg ac o 1936 ymlaen ei henw swyddogol yn yr iaith honno yw Тифлис (Tiflis): mae'n dal i gael ei hadnabod felly weithiau heddiw mewn ieithoedd eraill. Mae gan y ddinas arwynebedd o 726 km² (280.3 milltir sgwar) a phoblogaeth o 1,093,000.

Tbilisi
Mathprifddinas, dinas, mkhare, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,118,035 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 455 (tua) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKakha Kaladze Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Georgeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolKartli Edit this on Wikidata
SirGeorgia Edit this on Wikidata
GwladGeorgia Edit this on Wikidata
Arwynebedd720 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.7225°N 44.7925°E Edit this on Wikidata
Cod post0100–0199 Edit this on Wikidata
GE-TB Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKakha Kaladze Edit this on Wikidata
Map
Rhai o eglwysi niferus Tbilisi
Llun panorama o'r ddinas

Sefydlwyd Tbilisi yn y 5g OC gan Vakhtang Gorgasali, Brenin Siorsaidd Kartli (Iberia), a daeth yn brifddinas y wlad yn y 6g. Heddiw mae Tbilisi yn ganolfan diwydiant a diwylliant bwysig sy'n gorwedd ar groesfan hanesyddol rhwng Ewrop ac Asia. Yn gorwedd ar un o ganghennau Llwybr y Sidan, mae Tbilisi wedi gweld sawl ymigprys am reolaeth arni yn ei hanes. Adlewychir hyn yn ei phensaernïaeth gyfoethog, gydag ardal fodern Rhodfa Rustaveli a'r cylch yn ymdoddi i strydoedd cul yr hen ardal ganoloesol Narikala.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Adeilad Gwasanaeth Fforddiau Tbilisi
  • Eglwys Gadeiriol Sameba
  • Eglwys Metekhi
  • Narikala
  • Senedd

Enwogion golygu

Chwaraeon golygu

Dolenni allanol golygu