Gwneir te gwyrdd o ddail Camellia sinensis sydd wedi'u hocsideiddio ychydig yn ystod eu prosesu. Tardd te gwyrdd o Tsieina, ond bellach fe'i gysylltir â nifer o ddiwylliannau drwy Asia. Yn weddol ddiweddar, mae te gwyrdd wedi dod yn boblogaidd yn y Gorllewin lle yfir te du'n draddodiadol. Ceir ystod eang o wahanol mathau o de gwyrdd, gan gynnwys matcha a sencha, sy'n amrywio yn ôl ffactorau megis yr amodau y'u tyfwyd ynddynt, amser eu medi a'r ffordd y'u proseswyd.

Dail te gwyrdd yn trwytho mewn dŵr

Mewn ymchwil i rinweddau gwrth-ganser y planhigyn, yn 2012 daethpwyd i'r canlyniad nad oedd digon o dystiolaeth i brofi hynny, er bod ymchwil arall yn Japan wedi dangos bod te gwyrdd yn lleihau'r risg o sawl math o ganser, problemau cardio-fasgiwlar a chlefyd Alzheimer.[1][2][3]

Hanes golygu

Cafwyd sôn am yfed te yn hanes chwedlonol Tsieina fwy na 4,000 mlynedd yn ôl[4]. Fe'i paratowyd gyntaf yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Shennong yn 2737 CC.[5] Defnyddir te gwyrdd fel diod a meddyginiaeth hyd heddiw ar draws Asia, yn enwedig yn Tsieina, Japan, Gwlad Tai a Fietnam, am nifer o broblemau, gan gynnwys rheoli gwaedu, iacháu clwyfau, rheoli tymheredd y corff a siwgr gwaed a helpu treulio bwyd.

Yng nghyfnod Brenhinllin Tang ysgrifennodd Lu Yu lyfr Clasur y Te (Tsieineeg Traddodiadol:茶經; Tsieineeg Symledig: 茶经; pinyin: Chájīng) a ddaeth yn un o'r llyfrau pwysicaf oll yn hanes te gwyrdd. Fe'i ysgrifennwyd rhwng 600 a 900 OC ac mae'n rhoi cyfarwyddiadau ar sut a ble y gellir mwynhau cwpanaid da o de.[6] Ym 1191, disgrifiodd yr offeiriad Zen Eisai yn Llyfr y Te (Japaneg: 喫茶養生記; Kissa Yoyoki) sut y gall yfed te gwyrdd wneud lles i'r pum organ hanfodol, yn enwedig y galon. Mae ei lyfr yn trafod priodweddau meddyginaethol tybiedig te gwyrdd, sy'n cynnwys lleddfu effeithiau alcohol, gweithio fel symbylydd, lleihau cochni, torri syched, cael gwared ar ddiffyg traul, gwella beriberi, atal blinder a gwella'r ymennydd a'r system wrinol. Ar ben hyn, mae'r rhan gyntaf yn esbonio siapau planhigion, blodau a dail te, a sonia am sut mae tyfu'r planhigion a phrosesu'r dail. Mae'r ail ran yn ymdrin â pharatoi'r te i wella gwahanol afiechydon.

Cyfeiriadau golygu