Damcaniaeth ddaearegol sy'n esbonio symudiadau mawr o fewn lithosffer y Ddaear yw tectoneg platiau (cyfaddasiad o'r term Saesneg plate tectonics,[1] a ddaw o'r Lladin Diweddar tectonicus, o'r Roeg τεκτονικός sef "yn ymwneud ag adeiladu").[2] Mae'r model damcaniaethol hwn wedi'i adeiladu ar sail y cysyniad o symudiad y cyfandiroedd, ac a ddatblygodd ar ddechrau'r 20g. Derbyniodd y gymuned gwyddorau daear y ddamcaniaeth yn sgil dilysu'r ffenomen ymlediad gwely'r môr yn y 1950au a'r 1960au.

Map o blatiau tectonig y Ddaear.
Symudiad y platiau - yn seiliedig ar data lloeren Global Positioning System (GPS) gan NASA JPL Archifwyd 2011-08-22 yn WebCite. Mae'r fectorau'n dangos maint a chyfeiriad y symudiad.
Gweddillion Plat Farallon, yn ddwfn oddi fewn i fantell y Ddaear.

Rhennir y lithosffer, sef plisgyn caled mwyaf allanol y blaned (y gramen a'r fantell uwch), yn blatiau tectonig. Mae'n cynnwys saith neu wyth o blatiau mawr (yn dibynnu ar y diffiniad) a nifer o blatiau bychain. Ceir tri math o ffin yn y fan lle mae'r platiau'n cwrdd, a bennir gan eu symudiad cymharol: ffin gydgyfeiriol, ffin dargyfeiriol, a ffawt trawsffurf. Crewyd daeargrynfeydd, llosgfynyddoedd, ffurfiad mynyddoedd, a ffurfiad ffosydd cefnforol ar hyd ffiniau'r platiau, ac maent yn parhau i gael eu creu. Mae symudiad lletraws cymharol y platiau'n amrywio o sero i 100 mm bob blwyddyn.[3]

Gwneir platiau tectonig o lithosffer cefnforol a lithosffer cyfandirol (sy'n fwy trwchus), gyda chramen arbennig ar eu pennau. Ar hyd ffiniau cydgyfeiriol, tynnir y platiau tua'r fantell gan islithriad; mae'r mater daearegol a gollir tua'r un cyfaint â'r gramen gefnforol newydd a ffurfir ar hyd ymylon dargyfeiriol o ganlyniad i ymlediad gwely'r môr. Trwy hyn, mae cyfanswm arwyneb y blaned yn aros yr un faint. Gelwir y rhagfynegiad hwn o dectoneg platiau yn "egwyddor y cludfelt". Awgrymir hen ddamcaniaethau, sy'n parhau gan ambell gwyddonydd, bod y Ddaear yn cywasgu neu'n ehangu'n raddol.[4]

Mae gan lithosffer y Ddaear fwy o nerth na'r asthenosffer sydd oddi tano, sy'n galluogi'r platiau tectonig i symud. Ceir darfudiad y fantell o ganlyniad i amrywiadau mewn dwysedd lletraws y fantell. Credir i'r platiau symud oherwydd cyfuniad o symudiad gwely'r môr i ffwrdd o'r grib ymledol (o ganlyniad i amrywiadau mewn topograffeg a dwysedd y gramen, sy'n achosi gwahaniaethau mewn disgyrchiant), a grym llusgiad (gan sugno i lawr) yn y parthau islithriad. Yn ôl esboniad arall, digwydd symudiadau'r platiau o ganlyniad i rymoedd y llanw a achosir gan yr haul a'r lleuad. Ansicr mae pwysigrwydd cymharol y ffactorau hyn a'u perthynas i'w gilydd, ac yn bwnc dadl hyd heddiw gan ddaearegwyr.

Ffin plât Tectonig golygu

 
Ffiniau Platiau Tectonig

Tirffurfiau Ymylon Platiau golygu

Gwelir nifer o dirffurfiau ar ymylon neu ffiniau platiau tectonig ar draws y byd. Mae'r tirffurfiau hyn yn cynnwys:-

  • Llosgfynyddoedd
  • Ynysoedd Folcanig neu arc o ynysoedd
  • Ffosydd Dyfnion
  • Mynyddoedd Plŷg

Hefyd gwelir daeargrynfeydd sy'n cael eu hachosi gan ffrithiant symudiad y plat.

Mathau o ffin golygu

 
Mynydd St. Helens gyda cholofn o ager yn codi ohono (1982)

Gan fod platiau tectonig yn symyd yn raddol mewn cyfeiriadau gwahanol ar draws y byd, mae'r newidiad sy'n digwydd ar ffin y plat yn amrywio o le i le.

Ymyl Cydgyfeiriol golygu

Dwy blat sy'n gwrthdaro â'i gilydd yw ymyl cydgyfeiriol.

 
Golwg o'r Himalayas

Plat cyfandirol yn gwrthdaro â phlat cefnforol
Mae plat cyfandirol yn ysgafnach na'r plat morol ac felly mae'n medru arnofio ar ben y plat cefnforol sy'n drymach a dwysach. Gorfodir hwn i suddo i'r fantell. Wrth suddo mae'n twymo ac yn toddi. Mae hyn yn rhyddhau nwyon a cherrig tawdd sy'n symud yn ôl i'r wyneb trwy wendidau yn y gramen. Os yw'n llwyddo i gyrraedd y wyneb mae'n creu llosgfynyddoedd. Mae symudiadau y platiau yn araf iawn gan fod ffrithiant aruthrol yn atal y symud. Ar ôl amser mae yna ormodedd o wasgedd ac mae'r platiau yn symud gall y symud sydyn yma yn greu daergryn.

Dau blat cyfandirol yn gwrthdaro
Gan mai dau blat ysgafn yw'r rhai cyfandirol nid oes un yn suddo o dan y llall. Yn ogystal mae'r gwasgedd yn plygu'r creigiau ac yn creu mynyddoedd enfawr. Dyma sut ffurfiodd mynyddoedd yr Himalaya a'r Alpau yn Ewrop. Gelwir y broses o greu mynyddoedd yn orogenesis.

Dau blat cefnforol yn gwrthdaro
Os mae dau blat cefnforol yn gwrthdaro fe fydd yr un dwysach yn suddo, twymo, toddi ac yn codi fel magama (fel Cyfandirol a Morol). Y tro yma yn lle creu llosgfynydd ar y tir mae yna arch o ynysoedd yn ffurfio sy'n gyfochrog i'r ffin rhwng y platiau. Esiampl o ynys folcanig o fewn arc o ynysoedd yw YnysMontserrat yn y Caribi.

Ymyl Dargyfeiriol golygu

 
Dyffryn Hollt

Neu ymyl Adeuladol
Dwy blat sy'n symyd oddi wrth ei gilydd sy'n creu ymyl adeiladol.

Ar ymylon dargyfeiriol mae'r platiau yn gwahanu oddi wrth ei gilydd ac mae tir newydd yn ymddangos rhyngddynt. Gelwir yr ymylon o'r math yn ymylon adeiladol. Mae hyn yn dechrau wrth i blat cyfandirol gael ei dorri gan y magma oddi dano sy'n codi i'r wyneb gan lif darfudol y magma. Bydd hyn yn arwain at ffurfiant dyffryn hollt lle mae blociau sydd rhwng y ffawtiau yn suddo. Wrth suddo, ymhen amser fe fydd y môr yn boddi'r dyffryn hollt. Mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd yn Nwyrain Affrica.

Ymylon Cadwrol golygu

Pan mae platiau yn llithro heibio ei gilydd, nid oes tir newydd yn cael ei greu na'i ddinistrio. Mae llawer o ffrithiant ar y ffin rhwng y platiau sy'n atal symudiad y platiau nes i'r gwasgedd gynyddu yn ddigonol i greu daergryn. Mae'r dirgryniadau a gwnaed gan y platiau yn effeithio yr ardal o chwmpas yr 'epicenter'.Gall fynd am filtiroedd a filltiroedd.

 
Map o Pangaea

Damcaniaeth Platiau Tectonig golygu

Yn 1912 dechreuodd Alfred Wegener ei ddamcaniaeth o Ddrifft Cyfandirol. Ei syniad oedd mai ond un cyfandir mawr oedd y byd ar un adeg sydd erbyn hyn wedi rhannu i fynu i gyfandiroedd llai sydd yn arnofio oddi wrth ei gilydd ac weithiau yn taro yn erbyn ei gilydd ar wyneb y Ddaear.

Pam oedd Wegener yn credu hyn? golygu

  • Sylweddolodd bod daeareg tebyg gan gyfandiroedd oedd yn bell iawn oddi wrth ei gilydd.
  • Gwelodd ffosiliau tebyg ar gyfandiroedd gwahanol.
  • Ambell i gyfandir megis Affrica a De America yn edrych fel pebai yn ffitio i'w gilydd.

Beth oedd Wegener yn methu ei egluro yw pam oedd y cyfandiroedd yn symud ac oherwydd hyn ni wnaed unrhyw sylw o'i ddamcaniaeth nes y 60'au wrth i fwy o wybodaeth ddod i law.

Rhestr platiau tectonig golygu

Platiau Mawr Heddiw golygu

  • Plât Affricanaidd
  • Plât Antarctig
  • Plât Arabaidd
  • Plât Awstralaidd
  • Plât Cocos
  • Plât Dde Americanaidd
  • Plât Ewrasaidd
  • Plât Gogledd Americanaidd
  • Plât India
  • Plât Indo-Awstralaidd
  • Plât Nazca
  • Plât Philipinaidd
  • Plât Scotia
  • Plât y Môr Tawel

Platiau Llai Heddiw golygu

  • Plât Adriatig
  • Plât Amuriaidd
  • Plât Anatoliaidd
  • Plât-Micro Bismark
  • Plât Bwrma
  • Plât Caribaidd
  • Plât Caroline
  • Plât Ddwyrain Americanaidd
  • Plât-Micro Easter
  • Plât Explorer
  • Plâtiau-Micro Ffiji
  • Plât-Micro Galapagos
  • Plât Gorda
  • Plât Hellenig
  • Plât Iberiaidd
  • Plât Iranaidd
  • Plât Juan de Fuca
  • Plât-Micro Juan Fernandez
  • Plât Okhotsk
  • Plât-Micro Rivera
  • Plât Somali
  • Plât South Sandwich
  • Plât Sunda
  • Plât Tonga

Hen blatiau golygu

  • Plât Farallon
  • Plât Kula

Cyfeiriadau golygu

Ffynonellau golygu

  • Little, W.; Fowler, H.W.; Coulson, J. (1990). Onions C.T., gol. The Shorter Oxford English Dictionary: on historical principles II (3ydd argraffiad). Clarendon Press. ISBN 978-0-19-861126-4.
  • Read, Herbert Harold; Watson, Janet (1975). Introduction to Geology. Efrog Newydd: Halsted. tt. 13–15. ISBN 978-0-470-71165-1. OCLC 317775677
  • Scalera, G., and Lavecchia, G. (2006). "Frontiers in earth sciences: new ideas and interpretation". Annals of Geophysics 49 (1). doi:10.4401/ag-4406 (dim yn gweithio 2015-01-09)..