Tegai

sant Celtaidd o'r 6g

Sant o Gymro oedd Tegai neu Tygái (fl. 6g). Ef yw sefydlwr traoddiadol a nawddsant plwyf Llandygái, yn Arllechwedd, Gwynedd.[1] Ceir amrysedd ynglŷn â'r ffurf gywir ar ei enw. Ceir y ddwy ffurf, Tegai a Tygái, yn yr achau. Ceir y ffurf Tegau fel enw merch (cf. Tegau Eurfron). Ni chofnodwyd ei wylmabsant.

Tegai
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
PriodCaradog Freichfras Edit this on Wikidata
Erthygl am y sant yw hon. Gweler hefyd Hugh Hughes (Tegai).

Hanes a thraddodiad golygu

Dywed traddodiad ei fod yn fab i Ithel Hael. Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg, Gredifael, a Fflewyn fel plant iddo. Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Fflewyn, Tecwyn, Trillo, Twrog, Llechid, a Baglan.[1]

Sefydlodd Tegai eglwys Llandegai/Llandygái, ger Bangor, mewn llecyn a elwir yn Faes Glasawg mewn hen gofnodion. Yn ôl traddodiad roedd ganddo drigfan ym Maes y Llan, gerllaw'r eglwys bresennol. Cedwir darnau o groes sy'n dwyn ei enw ac arch garreg yn yr eglwys.[1]

Ceir llecyn o'r enw Cors Dygái ym mhlwyf Llangristiolus lle bu gan y sant gell feudwy, yn ôl traddodiad.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2001).