Teigr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Felidae
Genws: Panthera
Rhywogaeth: P. tigris
Enw deuenwol
Panthera tigris
(Linnaeus, 1758)

Mamal yn perthyn i'r teulu Felidae (cathod) yw teigr. Cigysydd yw'r teigr ac mae ganddo grafangau a dannedd miniog. Mae'n un o bedwar rhywogaeth yn y genws Panthera. Y mwyaf cyffredin o'r is-rywogaethau yw Teigr Bengal.

Ystyrir y Teigr yn rhywogaeth mewn perygl, oherwydd hela a dinistrio fforestydd. Defnyddir rhannau o'r teigr mewn moddion Sineaidd traddodiadol.

Is-rywogaethau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am teigr
yn Wiciadur.