Teulu mawr ac eang o gemegion organig sy'n bodoli'n naturiol ydy terpenoid neu isoprenoid, sy'n debyg i terpene, sy'n deillio o unedau isoprene pum-carbon sydd wedi eu cysodi a'u addasu mewn miloedd o wahanol ffyrdd.

Strwythr cemegol terpenoid isopentenyl pyrophosphate.

Mae'r rhan fwyaf yn strwythrau aml-gylchol sy'n wahanol iw gilydd nid yn unig o fewn grwpiau swyddogaeth, ond hefyd yn ôl eu amlinelliad carbon sylfaenol. Gellir canfod y lipidau rhain ym mhob dosbarth o bethau byw, a'r rhain yw'r grŵp mwyaf o gynnyrch naturiol.

Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.