Darlledwr Cymraeg yw Terwyn Davies (ganwyd 3 Ebrill 1979). Magwyd yn Nyffryn Aeron, Ceredigion, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Felin Fach ac yna Ysgol Gyfun Aberaeron, aeth Davies yn ei flaen i Brifysgol Cymru Bangor i ddilyn cwrs gradd mewn Cyfathrebu, a chwrs ôl-radd mewn Newyddiaduraeth. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Cynhyrchydd rhaglen Bro ar S4C, a hefyd yn cyflwyno'r rhaglen Ffermio[1] ar gyfer S4C. Mae Terwyn bellach wedi ymgartrefu yn ardal Tanerdy yn nhref Caerfyrddin.

Terwyn Davies
Ganwyd3 Ebrill 1979 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Radio Ceredigion golygu

Ymunodd â thîm cyflwyno Radio Ceredigion ym 1995, gan gyflwyno rhaglenni amrywiol fel "Yr Awr Gyfarchion" ac "Ar Dramp", a dwy awr o gerddoriaeth wlad wythnosol o'r enw "Gore Gwlad" - yr oedd yn cynnwys y gorau o ganu gwlad newydd o'r UDA a chymysgedd o gerddoriaeth Cymraeg hefyd.

BBC Radio Cymru golygu

Ym mis Hydref 1999 wrth iddo fod yn y coleg ym Mangor, ymunodd â thîm cyflwyno BBC Radio Cymru lle bu'n cyd-gyflwyno Gang Bangor gyda Dylan Wyn ac Owain Gwilym. Yn 2000, cafodd bartner darlledu newydd, Stephen Edwards, a bu'r ddau'n cyd-ddarlledu ar Gang Bangor cyn ymuno â rhaglen C2.

Bu Terwyn yn cyd-gyflwyno slot hwyr C2 bob nos Iau a nos Wener rhwng 11 ac 1 yng nghwmni Stephen Edwards a Jeni Lyn, ac C2 ar fore Sadwrn rhwng 10.30 a 12.30pm. Yn ddiweddarach, symudwyd y slot boreol i slot yn y prynhawn rhwng 12.30 a 2pm o dan yr enw Steve a Terwyn.

Ym mis Hydref 2007, fel rhan o newidiadau i ail-strwythuro gwasanaeth C2, daeth rhaglenni Steve a Terwyn i ben.

Ym mis Ebrill 2008, ymunodd Terwyn â thîm rhaglen Galwad Cynnar ar BBC Radio Cymru fel gohebydd achlysurol. Ers mis Rhagfyr 2008, mae'n gyfrannwr rheolaidd i raglen foreol Dafydd Du a Caryl Parry Jones ar BBC Radio Cymru, yn adolygu'r papurau dyddiol ysgafn. Hefyd, ers mis Ebrill 2009, mae Terwyn yn cyflwyno'r bwletinau newyddion amaeth dyddiol ar y Post Cyntaf yn achlysurol, tra bo'r cyflwynydd arferol, Dei Tomos ar ei wyliau. Yn 2010, bu hefyd yn cyflwyno rhaglen Geraint Lloyd gyda'r nos am rai misoedd yn dilyn ymadawiad Jonsi.

Gwaith teledu golygu

Yn ei fywyd personol, mae Terwyn wedi gweithio i gwmni cynhyrchu Telesgop ers 2001 lle dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen Ffermio. Bu'n gynhyrchydd rhyngweithiol, yn gyfrifol am wefan Ffermio a gwasanaeth botwm coch sy'n cyd-fynd â'r rhaglen rhwng 2005 a 2008.

Rhwng mis Awst 2008 a Mai 2009, bu'n gweithio fel cyflwynydd a chynhyrchydd ar chwaer raglen Ffermio, sef Bwletin Ffermio fu'n darlledu ar S4C Digidol bob dydd Mawrth a dydd Gwener am 1.30pm, a bu hefyd yn cyflwyno rhaglenni radio arbennig ar gyfer gwefan Ffermio.tv.

Ers Mai 2009, mae Terwyn yn gweithio fel cynhyrchydd ar gyfres newydd Bro ar S4C gyda Shân Cothi ac Iolo Williams, lle maen nhw'n ymweld ag ardaloedd gwahanol o Gymru bob wythnos, yn dod i adnabod yr ardal honno drwy ei hanes, ei thirlun a'i phobl.

Ym Mawrth 2011, ymunodd â thîm cyflwyno Ffermio[2][3] ar S4C.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu