Tessie O'Shea

actores a aned yn 1913

Cantores a cherddores oedd Teresa “Tessie” O'Shea (13 Mawrth 191321 Ebrill 1995).

Tessie O'Shea
Ganwyd13 Mawrth 1913 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 1995 Edit this on Wikidata
Leesburg, Florida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, digrifwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Cafodd ei geni yng Nghaerdydd, i James Peter O'Shea, milwr oedd yn fab i ymfudwr Gwyddelig a'i wraig Nellie Theresa Carr, magwyd Tessie O'Shea yn nhraddodiad theatr gerdd Prydeinig. Perfformiodd ar lwyfan mor ifanc a chwe mlwydd oed, a hysbysebwyd fel "The Wonder of Wales". Erbyn ei arddegau roedd hi'n adnabyddus am ei darllediadau poblogaidd ar BBC Radio a fe ymddangosodd ar lwyfan ym Mhrydain a De Affrica. Yn aml roedd yn gorffen ei act drwy ganu a chware'r banjolele yn arddull George Formby. Tra'n ymddangos yn Blackpool yn y 1930au, fe wnaeth y gorau o'i maint corfforol drwy gymryd "Two Ton Tessie from Tennessee" fel ei arwyddgan. Yn y 1940au roedd yn seren cyson yn y London Palladium a fe sefydlodd ei hun fel artist recordio yn y 1950au.[1][2]

Gwobr Tony golygu

Yn 1963, fe greuodd Noël Coward rhan y gwerthwr sglodion a physgod "Ada Cockle" yn arbennig ar gyfer ei sioe gerdd Broadway, The Girl Who Came to Supper. Fe wnaeth ei pherfformiad o ganeuon traddodiadol Cockney swyno'r adolygwyr a roedd yn gymorth iddi ennill Wobr Tony am Actores Nodwedd Gorau mewn Sioe Gerdd.[3]

Yn yr un flwyddyn, roedd O'Shea yn westai ar raglen deledu The Ed Sullivan Show. Roedd yn ddigon poblogaidd fel y dychwelodd yn 1964 ar yr un sioe a'r The Beatles. Fe wnaeth ymddangosiad y ddau ar y rhaglen ddenu y gynulleidfa uchaf yn hanes teledu Americanaidd ar y pryd. Roedd yn aelod o'r cwmni sefydlog ar y sioe adloniant byrhoedlog The Entertainers (1964-1965) ar CBS. Yn 1968, cafodd O'Shea ran yn y ffilm deledu The Strange Case of Dr. Jekyll and Mr. Hyde, ac am y rhan hwn fe'i enwebwyd am Wobr Emmy am Berfformiad Rhagorol gan Actores mewn Rhan Gefnogol mewn Drama.[4]

Fe serennodd O'Seah mewn comedi sefyllfa Prydeinig byrhoedlog As Good Cooks Go, rhwng 1969 a 1970. Fe ymddangosodd yn London Town, The Russians Are Coming, the Russians Are Coming, The Blue Lamp, a Bedknobs and Broomsticks gyda Angela Lansbury. Fe ymddangosodd yn rheolaidd ar sioe adloniant hirhoedlog y BBC, The Good Old Days.

Marwolaeth golygu

Bu farw O'Shea o ddiffyg gorlenwad y galon yn 82 mlwydd oed, yn ei chartref yn East Lake Weir, Florida.

Ffilmiau golygu

  • London Town (1946)
  • The Blue Lamp (1950)
  • The Russians Are Coming, the Russians Are Coming (1966)
  • Bedknobs and Broomsticks (1971)

Teledu golygu

  • The Entertainers (1964-65)
  • The Strange Case of Dr. Jekyll and Mr. Hyde (1968)
  • As Good Cooks Go (1969-70)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Obituary: Tessie O'Shea". The Independent.
  2. "Songs". tessieoshea.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2016-01-05.
  3. Whitcomb, Ian (2013). Ukulele Heroes: The Golden Age. Hal Leonard. t. 88. ISBN 9781458416544.
  4. "Tessie O'Shea". Television Academy.

Dolenni Allanol golygu