Teyrn (gwyddbwyll)

Mewn Gwyddbwyll, gall y Teyrn neu'r Brenin symud un sgwâr i unrhyw gyfeiriad. Pan fo'r teyrn yn cael ei fygwth, gelwir hyn yn Siach, ac mae'n rhaid iddo ddod allan o siach ar unwaith. Gall wneud hynny drwy naill ai

abcdefgh
8
e6 black circle
f6 black circle
g6 black circle
e5 black circle
f5 white king
g5 black circle
e4 black circle
f4 black circle
g4 black circle
8
77
66
55
44
33
22
11
abcdefgh
Symud y Teyrn
a) symud i sgwâr na fygythir gan y gelyn
b) cymryd y darn sy'n ei fygwth ei hun neu gyda darn arall os mai dim ond un darn sy'n ei fygwth, (h.y. nad yw'r Teyrn mewn siach ddwbl)
c) blocio'r bygythiad.

All y Teyrn ddim symud i sgwâr a reolir gan y gelyn, neu byddai'n symud mewn i siach. Gall gymryd unrhyw ddarn sy'n eiddo i'r lliw arall, dim ond iddo beidio symud mewn i siach wrth wneud hynny. Os yw'r Teyrn mewn siachmat mae'r chwaraewr yn colli'r gêm. Gall Teyrn symud ymlaen ac yn ôl. Mae'r Teyrn hefyd yn rhan o symudiad arall sy'n cynnwys dau ddarn o'r un lliw, sef castellu.