Teyrnas oedd Teyrnas Iwerddon (Gwyddeleg Clasurol: Ríoghacht Éireann; Gwyddeleg Modern: Ríocht Éireann; Saesneg: Kingdom of Ireland) a fu'n ddibynnol ar Deyrnas Lloegr o 1542 i 1707 ac ar Brydain Fawr o 1707 i 1800. Daeth holl ynys Iwerddon dan reolaeth Coron Loegr yn sgil concwest y Tuduriaid yn y 1530au a datganwyd Harri VIII, brenin Lloegr yn frenin Iwerddon yn 1542 a hynny mewn undeb personol. Gweinyddid y deyrnas drwy raglaw a gafodd ei benodi gan y frenhiniaeth i lywodraethu yng Nghastell Dulyn. Roedd gan Deyrnas Iwerddon senedd, pendefigaeth, cyfraith, ac eglwys ar wahân, ond cychwynnwyd ar gyfnod hir o Seisnigeiddio ac Anglicaneiddio gan yr Oruchafiaeth Brotestannaidd a'r Eingl-Wyddelod. Yn sgil Deddfau Uno 1800, diddymwyd Teyrnas Iwerddon a'i senedd, a sefydlwyd Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ar 1 Ionawr 1801.

Teyrnas Iwerddon
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasDulyn Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1542 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd84,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3333°N 6.25°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholParliament of Ireland Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Iwerddon Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSiôr III, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadProtestant Ascendancy Edit this on Wikidata
Ystondard Frenhinol Iwerddon (1542–1801)
Baner Croes sawtyr San Padrig, wedi 1783
Baner Republic of IrelandEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.