Gwleidydd o Dde Affrica a fu'n Arlywydd o 1999 hyd 2008 yw Thabo Mvuyelwa Mbeki (ganed 18 Mehefin 1942).

Thabo Mbeki
Ganwyd18 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
Mbewuleni Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDe Affrica Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, economegydd Edit this on Wikidata
SwyddDeputy President of South Africa, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol De Affrica, Chairperson of the African Union, Arlywydd De Affrica, Cadeirydd-mewn-Swydd y Gymanwlad, Secretary General of the Non-Aligned Movement Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadNelson Mandela Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAfrican National Congress Edit this on Wikidata
TadGovan Mbeki Edit this on Wikidata
MamEpainette Mbeki Edit this on Wikidata
PriodZanele Dlamini Mbeki Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Champions of the Earth, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Order of Excellence, Order of the Eagle of Zambia, honorary doctor of the Peoples' Friendship University of Russia, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, honorary doctor of the University of Johannesburg, honorary doctor of the University of Sussex Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Mbeki yn Idutywa, yn fab i Govan Mbeki, a sefydlodd adran ieuenctid yr ANC gyda Nelson Mandela. Daeth yn aelod o'r ANC ei hun, a threuliodd 28 mlynedd mewn alltudiaeth. Yn y cyfnod yma, astudiodd economeg ym Mhrifysgol Sussex yn Lloegr, yna'n gweithio i'r ANC yn Llundain. Yn 1970, symudodd i'r Undeb Sofietaidd. Roedd yn flaenllaw yn y trafodaethau gyda llywodraeth De Affrica a arweiniodd at ddiwedd apartheid ac ethol Nelson Mandela yn Arlywydd yn 1994.

Olynodd Mbeki ei gyfaill Mandela fel Arlywydd ar 16 Mehefin 1999. Beirniadwyd ef yn 2000 oherwydd ei gred nad oedd yr afiechyd AIDS yn cael ei achosi gan y feirws HIV. Credai ef y byddai ymladd yn erbyn tlodi yn fwy effeithiol nag ymladd yn erbyn HIV i leihau AIDS.

Ymddiswyddodd Mbeki fel Arlywydd ar 25 Medi 2008, yn dilyn dyfarniad gan farnwr fod Mbeki wedi bod a rhan yn y penderfyniad i erlyn Jacob Zuma am dderbyn llwgrwobrwyon, a bod hyn ar sail wleidyddol am fod Zuma yn wrthwynebydd gwleidyddol. Olynwyd ef gan Kgalema Motlanthe.

Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Nelson Mandela
Arlywydd De Affrica
14 Mehefin 199924 Medi 2008
Olynydd:
Kgalema Motlanthe