Athronydd Groegaidd hynafol oedd Thales (620au CC – 540au CC) a sefydlodd yr ysgol Ïoniaidd.

Thales
Penddelw Rufeinig o'r 2g, ei thrwyn wedi cwympo, o Thales, a gedwir yn yr Amgueddfa Farmor ym Mhalas y Medici, Fflorens.
Ganwydc. 625 CC Edit this on Wikidata
Miletus Edit this on Wikidata
Bu farw540s CC Edit this on Wikidata
o trawiad gwres Edit this on Wikidata
Miletus Edit this on Wikidata
Man preswylMiletus Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, athronydd, seryddwr, ffisegydd, peiriannydd, ysgrifennwr, geometer, athro Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThales' theorem Edit this on Wikidata
Mudiadathroniaeth cyn-Socratig, Ysgol Milesaidd Edit this on Wikidata
TadExamyas Edit this on Wikidata
MamСleobulina Edit this on Wikidata

Brodor ydoedd o Miletus, yn Asia Leiaf, a blodeuodd yn y 6g CC. Ychydig iawn a wyddys am amgylchiadau ei fywyd. Mynegir ei fod wedi cynghori yr Ïoniaid, y rhai a fygythid gan y Persiaid i ffurfio cynghrair yn erbyn eu gelyn grymus, ac i wneud Teos yn brifddinas. Mewn cyfnod diweddarach, dywedir ei fod wedi perswadio'r Milesiaid i dynnu yn ôl o gynghrair oedd rhyngddynt â'r brenin Croesus i wrthwynebu Cyrus Fawr. Mynegir hefyd iddo ragfynegi'r diffyg a fu ar yr haul yn nheyrnasiad Alyattes.

Yn ôl traddodiad yr hen Roegiaid, un o'r Saith Gŵr Doeth oedd Thales. Yr hyn a roddodd iddo hawl i'r teitl hwnnw oedd ei ddoethineb anarferol, yn hytrach nag unrhyw orchestion damcaniaethol. Er hynny, y mae iddo enw uchel yn hanes athroniaeth damcaniaethol. Ystyria rhai ef fel y Groegwr cyntaf a ffurfiodd ddamcaniaeth ar gyfansoddiad y greadigaeth. Yn ôl ei ddamcaniaeth, yr egwyddor wreiddiol o bob peth ydyw dŵr: o'r hwn y deilliai pob peth, a dychwelai pob peth yn ddŵr eilwaith. Mae yn dra thebygol taw ffurf o holldduwiaeth o ryw fath oedd ei athroniaeth ef. Nid ysgrifennodd ei ddamcaniaethau, ac nis gellir cael un syniad am nodwedd ei athrawiaeth, ond a ellir ei gasglu oddi wrth yr hyn a ddywedir amdano gan Roegwyr diweddarach megis Herodotus ac Aristoteles.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.