The Apprentice (cyfres deledu'r DU)

Roedd The Apprentice yn gyfres deledu realiti Prydeinig, lle mae'r cystadleuwyr yn ceisio ennill cytundeb am swydd gwerth £100,000 y flwyddyn, fel "apprentice" i'r gŵr busnes Seisnig, Syr Alan Sugar. Mae'r enillwyr wedi mynd ymlaen i weithio yn Amstrad, cwmni cynhyrchu electronig a sefydlwyd gan Sugar (ond a werthwyd yn hwyrach i BSkyB) neu un o gwmnïau eraill Syr Alan fel Viglen, Amsprop neu Amshold.

The Apprentice

Delwedd o agoriad y rhaglen.
Genre Cyfres deledu realiti
Crëwyd gan Mark Burnett
Serennu Syr Alan Sugar
Nick Hewer
Margaret Mountford
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 10
Nifer penodau 120
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC
Rhediad cyntaf yn 16 Chwefror 2005
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Yn ddiweddar, mae gwobr y raglen wedi newid i fuddsoddiad o £250,000 mewn i fusnes yr enillydd. Mae'r Arglwydd Sugar a'r enillydd yn rhannu'r busnes 50/50. Mae "The Apprentice", sy'n cael ei hysbysebu fel "cyfweliad o uffern am swydd", yn debyg o ran fformat i'r gyfres deledu Americanaidd o'r un enw, sy'n serennu'r dyn busnes Donald Trump.