The Blue Lagoon (1980)

ffilm a serennai Brooke Shileds o 1980

Mae The Blue Lagoon yn ffilm ddrama ramantus, Americanaidd o 1980, a gyfarwyddwyd gan Randal Kleiser o sgript a ysgrifennwyd gan Douglas Day Stewart yn seiliedig ar nofel o 1908 (o'r un enw) gan Henry De Vere Stacpoole. Mae'r ffilm yn serennu Brooke Shields a Christopher Atkins. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Basil Poledouris a'r sinematograffi gan Néstor Almendros.

The Blue Lagoon
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1980, 19 Rhagfyr 1980 Edit this on Wikidata
Genreffilm ramantus, ffilm am arddegwyr, ffilm glasoed, ffilm ddrama, ffilm am oroesi, ffilm a seiliwyd ar nofel, melodrama Edit this on Wikidata
Olynwyd ganReturn to the Blue Lagoon Edit this on Wikidata
Prif bwncmorwyn, beichiogrwydd, glasoed Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithOceania'r ynysoedd Edit this on Wikidata
Hyd101 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrRandal Kleiser Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrRandal Kleiser Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuColumbia Pictures Edit this on Wikidata
CyfansoddwrBasil Poledouris Edit this on Wikidata
DosbarthyddColumbia Pictures, Netflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddNéstor Almendros Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r ffilm yn adrodd hanes dau blentyn ifanc sydd, yn dilyn llongrylliad, yn glanio ar baradwys ynys drofannol yn Ne'r Môr Tawel. Heb arweiniad na chyfyngiadau cymdeithas, mae newidiadau emosiynol a chorfforol yn codi wrth iddynt gyrraedd y glasoed a chwympo mewn cariad a'i gilydd. Roedd y ffilm yn cynnwys cynnwys elfennau rhywiol sylweddol.

Rhyddhawyd y Blue Lagoon ar 20 Mehefin 1980 gan Columbia Pictures. Dilornwyd y ffilm gan y beirniaid, a beirniadwyd perfformiad Brooke Shields yn hallt; fodd bynnag, cafodd sinematograffi Almendros ganmoliaeth uchel. Er gwaethaf y feirniadaeth, roedd y ffilm yn llwyddiant masnachol, a derbyniwyd dros $58 miliwn er mai dim ond $4.5 miliwn oedd cost y ffilm.

Enwebwyd y ffilm am un o wobrau Saturn ac enwebwyd Almendros am Wobr yr Academi am Sinematograffeg Orau, ac Atkins am Wobr Golden Globe ar gyfer Seren Newydd y Flwyddyn - Actor. Enillodd Shields y Wobr Mafon Aur gyntaf (neu'r Golden Raspberry Award) am yr Actores Waethaf am ei gwaith yn y ffilm.

Cast golygu

  • Brooke Shields fel Emmeline Lestrange
    • Elva Josephson fel Young Emmeline
  • Christopher Atkins fel Richard Lestrange
    • Glenn Kohan fel Young Richard
  • Bradley Pryce fel Little Paddy Lestrange
    • Chad Timmermans fel Infant Paddy
  • Leo McKern fel Paddy Button
  • William Daniels fel Arthur Lestrange
  • Alan Hopgood fel Captain
  • Gus Mercurio fel Officer

Cynhyrchu golygu

 
Daeth yr iguana cribog Fiji i enwograwydd oherwydd The Blue Lagoon.

Saethwyd y ffilm yn Jamaica a Nanuya Levu, ynys breifat yn Fiji.[1] Mae'r fflora a'r ffawna a welir yn y ffilm yn cynnwys amrywiaeth o anifeiliaid o sawl cyfandir. Fel mae'n digwydd, roedd yr iguanas a ffilmiwyd ar Fiji yn rhywogaeth nad oedd biolegwyr yn gwybod amdani ar y pryd; nodwyd hyn gan yr herpetolegydd John Gibbons wrth wylio'r ffilm ac ar ôl teithio i'r ynys lle ffilmiwyd yr iguanas, disgrifiodd yr iguana cribog Fiji (Brachylophus vitiensis) ym 1981.[2]

Noethni golygu

Roedd Shields yn 14 oed pan yn y ffilm.[3] Perfformiwyd y golygfeydd cwbwl noeth gan gydlynydd stunt 32-mlwydd-oed o'r enw Kathy Troutt.[4] Ond gwnaeth Shields lawer o'i golygfeydd bronnoeth gyda'i gwallt yn cuddio'r rhan fwyaf o'i bronnau.[5][6] Roedd hyn yn wahanol i berfformiad Brooke yn Pretty Baby, pan oedd yn gwbwl noeth newn sawl golygfa, a hithau'n ddim ond deuddeg oed, ddwy flynedd ynghynt.

Roedd Atkins yn 18 oed pan saethwyd y ffilm, a pherfformiodd ei olygfeydd noethlymun ei hun.[7][8][9]

[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. McMurran, Kristin (August 11, 1980). "Too Much, Too Young?". People. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-30. Cyrchwyd April 28, 2013.
  2. Robert George Sprackland (1992). Giant lizards. Neptune, New Jersey: T.F.H. Publications. ISBN 0-86622-634-6.
  3. Abbey Bender (March 4, 2019). "Sexualized Innocence: Revisiting The Blue Lagoon". RogerEbert.com. Cyrchwyd February 27, 2020.
  4. Arnord, Gary (July 11, 1980). "Depth Defying". The Washington Post. Cyrchwyd 6 June 2018.
  5. The Blue Lagoon (DVD Special Edition). Released October 5, 1999.
  6. "SCREEN ARCHIVES ENTERTAINMENT". Screenarchives.com. Cyrchwyd 7 January 2018.
  7. McMurrin, Kristin (August 11, 1980). "Too Much, Too Young?". People. Cyrchwyd August 23, 2018.
  8. "Christopher Atkins: Poster Child for Gay Rights Movement?". Advocate.com. January 9, 2009. Cyrchwyd August 23, 2018.
  9. "Chris Atkins". HollywoodShow.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-23. Cyrchwyd August 23, 2018.
  10. "The Blue Lagoon Reviews". Metacritic.

Dolenni allanol golygu