The Company of Wolves

ffilm ffantasi llawn arswyd gan Neil Jordan a gyhoeddwyd yn 1984

Ffilm ffantasi gan y cyfarwyddwr Gwyddelig Neil Jordan yw The Company of Wolves (1984). Mae'n seiliedig yn fras ar chwedl Hugan Goch Fach. Ffilm arbrofol gydag elfennau swrealaidd amlwg ydy hi, wedi'i saethu ar set stiwdio arbennig sy'n cynrychioli pentref bychan yng nghanol coedwig ryfeddol. Mae'r ffilm yn serennu Angela Lansbury, Sarah Patterson (fel y ferch ifanc Rosaleen), David Warner, Stephen Rea ac eraill.

The Company of Wolves

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Neil Jordan
Cynhyrchydd Chris Brown
Stephen Woolley
Ysgrifennwr Angela Carter
Neil Jordan
Serennu Sarah Patterson
Angela Lansbury
Stephen Rea
David Warner
Cerddoriaeth George Fenton
Sinematograffeg Bryan Loftus
Golygydd Rodney Holland
Dylunio
Cwmni cynhyrchu ITC
Cannon (UDA)
Dyddiad rhyddhau 15 Medi 1984
Amser rhedeg 95 munud
Gwlad Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
Sarah Patterson yn rhan Rosaleen yn The Company of Wolves

Addasiad o straeon am fleidd-ddynion yn y casgliad o straeon byrion The Bloody Chamber gan Angela Carter (yn benodol 'The Company of Wolves', 'Wolf-Alice' a 'The Werewolf') yw The Company of Wolves. Cydysgrifenodd Carter y sgript sgrin gyda Neil Jordan. Mae wedi cael ei disgrifio fel "Hugan Fach Goch i oedolion". Cafodd dderbyniad cymysg gan y beirniaid pan ddaeth allan ond bellach cydnabyddir y ffilm yn glasur yn ei genre.