The Good Shepherd

ffilm ddrama llawn cyffro gan Robert De Niro a gyhoeddwyd yn 2006

Mae The Good Shepherd (2006) yn ffilm ysbïo a gyfarwyddwyd gan Robert De Niro ac sy'n serennu Matt Damon ac Angelina Jolie, gyda chast cefnogol niferus. Er ei fod yn ffilm ffuglen yn rhannol seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, cafodd y ffilm ei hyrwyddo fel ffilm a oedd yn adrodd hanes creu gwrth-ysbïo yn yr Asiantaeth Ysbïo Canolog (Saesneg: Central Intelligence Agency). Ffilm gan Morgan Creek Productions ydyw a chafodd ei dosbarthu gan Universal Pictures. Mae prif gymeriad y ffilm, Edward Wilson (a bortreadir gan Matt Damon), yn rhannol seiliedig ar James Jesus Angleton a Richard M. Bissell. Mae cymeriad William Hurt, Phillip Allen, yn seiliedig i raddau helaeth ar Allen Dulles, tra bod y Cadfridog Bill Sullivan, a boretreadir gan Robert De Niro, yn rhannol seiliedig ar yr Uwchgapten William Joseph Donovan. Seiliwyd cymeriad Archibald Cummings yn fras ar yr ysbïwr ac asiant dwbl Prydeinig, Kim Philby.

The Good Shepherd

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Robert De Niro
Cynhyrchydd James G. Robinson
Robert De Niro
Jane Rosenthal
Francis Ford Coppola
Ysgrifennwr Eric Roth
Serennu Matt Damon
Angelina Jolie
William Hurt
Alec Baldwin
Robert De Niro
Billy Crudup
Michael Gambon
Timothy Hutton
Joe Pesci
John Turturro
Cerddoriaeth Bruce Fowler
Marcelo Zarvos
Sinematograffeg Robert Richardson
Golygydd Tariq Anwar
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Universal Pictures
Amser rhedeg 167 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ysbïo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.