The Great Escape (ffilm)

Ffilm Americanaidd am griw o garcharorion rhyfel yn dianc o wersyll carcharorion rhyfel Almaenig yn ystod yr Ail Ryfel Byd ydy The Great Escape (1963). Mae'n serennu Steve McQueen, James Garner a Richard Attenborough.

The Great Escape
Cyfarwyddwr John Sturges
Cynhyrchydd John Sturges
Ysgrifennwr James Clavell
W. R. Burnett
Serennu Steve McQueen
James Garner
Richard Attenborough
James Donald
Charles Bronson
Donald Pleasence
James Coburn
Angus Lennie
David McCallum
Cerddoriaeth Elmer Bernstein
Sinematograffeg Daniel L. Frapp
Golygydd Ferris Webster
Dylunio
Cwmni cynhyrchu The Mirisch Company
Dosbarthydd United Artists
Dyddiad rhyddhau 4 Gorffennaf 1963
Amser rhedeg 172 munud
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Cyllideb £4 miliwn
Refeniw gros $5.5 miliwn

Seiliwyd y ffilm ar y llyfr o'r un enw gan Paul Brickhill. Hanes dihangfa gwirioneddol o wersyll Stalag Luft III yn Żagań, a oedd bryd hynny yn rhan o'r Almaen ydyw. Mae'r cymeriadau'n seiliedig ar bobl go iawn. Gwnaed y ffilm gan Mirisch Company, ei rhyddhau gan United Artists, a'i chynhyrchu a'i chyfarwyddo gan John Sturges.