The Leper of Saint Giles

Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw The Leper of Saint Giles ("Y Gwahanglaf o Sant Giles") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1981. Dyma'r bumed nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).

The Leper of Saint Giles
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEdith Pargeter Edit this on Wikidata
CyhoeddwrMacmillan Publishers Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiMai 1981 Edit this on Wikidata
Genreffuglen dirgelwch, nofel drosedd Edit this on Wikidata
CyfresThe Cadfael Chronicles Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganSaint Peter's Fair Edit this on Wikidata
Olynwyd ganThe Virgin in the Ice Edit this on Wikidata
CymeriadauCadfael Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithAmwythig Edit this on Wikidata

Mae'r stori yn digwydd dros gyfnod o bedwar diwrnod ym mis Hydref 1139. Mae dau deulu o dirfeddianwyr yn trefnu priodas rhwng barwn hŷn a gwraig ifanc sy’n caru rhywun arall. Nid yw'r priodfab yn cyrraedd yr allor. Cadfael sy'n gyfrifol am ddod o hyd i'w lofrudd, tra bod y prif ddrwgdybiedig o'r siryf yn cuddio yn y tŷ am wahangleifion.

Cafodd y llyfr ei addasu ar gyfer teledu yn 1994.

Cyfeiriadau golygu