The Life Story of David Lloyd George

ffilm fud (heb sain) am berson nodedig gan Maurice Elvey a gyhoeddwyd yn 1996


Ffilm fud am hanes bywyd a gyrfa gynnar y gwleidydd Cymreig David Lloyd George yw The Life Story of David Lloyd George. Fe'i cynhyrchwyd yn 1918 ond diflanodd o'r golwg am 76 o flynyddoedd nes ei hailddarganfod yn archifau ffilm Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]

The Life Story of David Lloyd George
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaudu-a-gwyn Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1996 Edit this on Wikidata
Genreffilm am berson, ffilm fud Edit this on Wikidata
Prif bwncDavid Lloyd George Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLlundain Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrMaurice Elvey Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuIdeal Film Company Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwyd y ffilm gan Maurice Elvey. Am ryw reswm, sy'n ddirgelwch hyd heddiw, atalwyd y ffilm cyn ei gorffen. Awgrymir mai ar orchymyn y Blaid Ryddfrydol y gwnaed hynny.[2]

Mae'r ffilm yn adrodd stori plentyndod Lloyd George yn Eifionydd ac yna'n dilyn ei yrfa feteorig fel gwleidydd Rhyddfrydol a ddechreuodd fel un o radicalwyr mwyaf ei gyfnod ac a ddaeth yn weinidiog rhyfel yng nghabinet llywodraeth y DU yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedyn yn brif weinidog.

Ffilm ddyfeisgar ac arloesol o ran ei thechneg ydyw, sy'n defnyddio technegau fel ôl-fflachiau lliw a gweledigaethau.

Portreadir Lloyd George gan yr actor Norman Page a cheir cannoedd o ecstras. Mae Alma Reville yn chwarae rhan Megan Lloyd George.

Y fersiwn adferedig golygu

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi adfer y ffilm. Fe'i dangoswyd am y tro cyntaf yn 1996 yng Nghaerdydd.

Cafodd ei chyhoeddi ym Mawrth 2009 ar DVD gyda cherddoriaeth wreiddiol gan y pianydd Neil Brand. Ceir cyflwyniad ar y cefndir hanesyddol a ffilmyddol gan yr actor Philip Madoc.

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-15. Cyrchwyd 2009-04-03.
  2. [1]

Dolenni allanol golygu