The Mystery of the Secret Room

The Mystery of the Secret Room (1945) yw'r drydydd lyfr yng nghyfres nofelau dirgelwch i blant gan Enid Blyton y Five Find-Outers fe’i cyhoeddwyd gan Methuen and Co Ltd ac mae’n olynu'r ail lyfr y gyfres, The Mystery of the Disappearing Cat.[1]

The Mystery of the Secret Room
Clawr yr argraffiad 1af
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEnid Blyton
GwladDeyrnas Unedig
IaithSaesneg
ISBN9781405203951 -7
DarlunyddJoseph Abbey
GenreLlyfrau plant, Nofel
CyfresFive Find-outers
Rhagflaenwyd ganThe Mystery of the Disappearing Cat Edit this on Wikidata

Plot golygu

Mae Fatty yn cael ei godi'n arweinydd newydd y darganfyddwyr, wrth iddo egluro ei fod wedi bod yn astudio sut i fynd allan o ystafell dan glo pan nad yw'r allwedd ar ei ochr ef o'r drws, sut i ysgrifennu llythyrau gydag inc anweledig (neu sudd oren / lemwn) a'i bod wedi bod yn ymarfer defnyddio cudd wisgoedd yn effeithiol.[2]

Mae'r Pump yn cael hwyl gyda thechnegau newydd Fatty, yn enwedig y cudd wisgoedd. Mae Pip yn cuddio ei hun gyda wig a dannedd sy'n sticio allan ac yn denu sylw Mr Goon, yr heddwas sy'n ei erlid ar draws y pentref. Mewn ymgais i ddianc rhag Mr Goon, mae Pip yn rhedeg i mewn i dir tŷ gwag ac yn dringo coeden. Mae'n synnu'n fawr o weld ystafell wedi'i dodrefnu'n llawn ar ben tŷ sydd fel arall yn wag ac yn anghyfannedd yn ôl pob golwg. Mae'r darganfyddwyr yn ceisio darganfod pwy sy'n berchen ar y tŷ, Milton House, a pham ei bod yn cynnwys ystafell sy'n ymddangos fel un cyfrinachol. Pwy sy'n ei ddefnyddio ac a be maen nhw'n gwneud yno?

Mae'r plant yn olrhain perchennog y tŷ i'r a chael bod o'n heiddo i ŵr gyda'r enw cyffredin "John Henry Smith", sy'n byw mewn tref bell. Mae Fatty yn ffonio Mr Smith ac yn ei rybuddio bod rhywun yn gwybod am yr ystafell gudd. Gan ddisgwyl i'r dirgel Mr Smith ddod i Peterswood a gwirio beth sy'n digwydd yn Milton House, mae Fatty yn cuddio ei hun gan wisgo ei wig a'i ddannedd yn y tŷ am hanner nos. Wedi llwyddo i i gael mynediad i'r tŷ mae'n darganfod llyfr nodiadau wedi'i ysgrifennu mewn cod yn yr ystafell gudd. Fodd bynnag, mae'n cael ei ddal gan y dynion - sy'n dramorwyr - a'i orfodi i ysgrifennu llythyr at y plant eraill, i'w hannog i'w gyfarfod yno er mwyn iddynt hwy gael eu dal hefyd. Mae Fatty yn ysgrifennu nodyn yn ôl orchymyn y dynion drwg, ond mae'n ysgrifennu nodyn cyfrinachol arall mewn inc anweledig, sy'n rhybuddio'r plant ac yn dweud wrthynt am ffonio'r heddlu. Yn ffodus, mae Bets yn sylwi bod nodyn Fatty yn arogli o orennau - defnyddiwyd sudd oren fel yr inc cudd - ac mae'r lleill yn sylweddoli'r perygl y mae Fatty ynddo, ac yn ffonio eu hoff blismon, yr Arolygydd Jenks. Yn y cyfamser, mae Fatty yn dianc o'r ystafell sydd wedi'i chloi ac yn llwyddo i gwrdd â'r Arolygydd Jenks y tu allan i'r tŷ a rhoi'r llyfr cod iddo. Mae'r heddlu'n dal y dihirod - sy’n troi allan i fod yn giang o ladron rhyngwladol - ac mae popeth yn iawn.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Blyton, Enid. (2002). The mystery of the secret room. London: Egmont. ISBN 978-1-4052-0395-1. OCLC 51235610.
  2. "The Mystery of the Secret Room". Children's Books Fandom. Cyrchwyd 2020-01-08.
  3. "Enid Blyton - Lashings of Information about the Children's Author - The Mystery of the Secret Room". www.enidblyton.net. Cyrchwyd 2020-01-08.

Dolenni allanol golygu

Tudalen Cymdeithas Enid Blyton am y llyfr

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth Enid Blyton