The Oxford Book of Welsh Verse in English

casgliad o gerddi Eingl-Cymreig a chyfieithiadau o'r Gymraeg i'r Saesneg

Mae The Oxford Book of Welsh Verse in English yn flodeugerdd Gymreig a olygwyd gan Gwyn Jones. Cyhoeddwyd y llyfr ym 1977 gan Wasg Prifysgol Rhydychen, ar hyn o bryd (2019) mae'r llyfr allan o brint.[1] Mae'n chwaer lyfr i Flodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (The Oxford Book of Welsh Verse) [2] a gyhoeddwyd ym 1962 dan olygyddiaeth Syr Thomas Parry. Mae Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg yn gasgliad o gerddi yn yr iaith Gymraeg tra fo cynnwys The Oxford Book of Welsh Verse in English yn yr iaith Saesneg. Mae'r llyfr yn gymysgedd o gerddi a ganwyd yn wreiddiol yn y Gymraeg wedi eu cyfieithu i'r Saesneg a cherddi gan awduron a chysylltiadau Cymreig a ganwyd yn y Saesneg yn wreiddiol.

The Oxford Book of Welsh Verse in English
Clawr y llyfr
Enghraifft o'r canlynolantholeg barddoniaeth, blodeugerdd Edit this on Wikidata
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1977 Edit this on Wikidata
Genrebarddoniaeth Edit this on Wikidata
Prif bwncllenyddiaeth Cymru Edit this on Wikidata


Mae'r detholiad o gerddi yn cychwyn gyda chyfieithiadau o'r canu cynharaf yn y Gymraeg, canu Taliesin ac Aneirin. Mae'n mynd ymlaen i gynnig cyfieithiadau o'r Gogynfeirdd, Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr. O gyfnod y Tuduriaid mae barddoniaeth Eingl-gymreig yn cael ei ddethol yn ogystal â chyfieithiadau. Y cerddi Eingl-gymreig cynharaf yn y casgliad yw Upon the Lines and Life of the Famous Scenic Bard Master William Shakespeare gan George Herbert ac Elegy over a Tomb gan ei frawd yr Arglwydd Herbert o Lanffynhonwen. Mae cyfieithiadau gan feirdd mwy diweddar yn cynnwys enghreifftiau o waith T. H. Parry Williams, Saunders Lewis, Waldo Williams a Bobi Jones. Mae gweithiau Saesneg yn cynnwys gweithiau gan David Jones, Wilfred Owen, Brenda Chamberlain a Dylan Thomas. Mae cyfanswm o 141 cerdd mewn cyfieithiad, 61 gan feirdd hysbys a 34 gan feirdd anhysbys. Mae cyfanswm o 97 cerdd Eingl-gymreig gan 42 bardd hysbys a 2 anhysbys.

Rhestr o feirdd yn y casgliad golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gwyn (1977). The Oxford book of Welsh verse in English. Oxford [England]: Oxford University Press. ISBN 0192118587. OCLC 2850029.
  2. Parry, Thomas (1962). The Oxford book of Welsh verse. Oxford: Oxford University Press. ISBN 0198121296. OCLC 59179552.