The Red Room (Wells)

Stori fer a ysgrifennwyd gan H. G. Wells ym 1894 ydy "The Red Room".

The Red Room
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurH. G. Wells Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1 Mawrth 1896 Edit this on Wikidata
Genrellenyddiaeth Gothig, horror short story Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Crynodeb o'r plot golygu

Adrodda'r stori hanes prif gymeriad di-enw sy'n dewis treulio noson yng Nghastell Lorraine anghysbell. Bwriad yr adroddwr yw treulio noson mewn ystafell y dywedir sydd wedi'i rheibio; ei nod yw gwrth-brofi yr amryw straeon ynglŷn â'r Castell a'r ystafell. Er gwaethaf rhybuddion annelwig tri gwarchodwr sy'n trigo yn y castell, mae'r prif gymeriad yn mynd i'r Ystafell Goch er mwyn dechrau ei wylnos.

Mae'r holl gymeriadau'n ymddwyn mewn modd rhyfedd a dirgel. Llwyddant i greu tensiwn, er nad yw'r darllenydd bob amser yn gwybod beth maent yn son amdano. Gwnant sylwadau fel “This night of all nights, said the woman”. Nid yw'r darllenydd yn gwybod enwau'r cymeriadau gan gynnwys y prif gymeriad hyn yn oed. Yn llinellau agoriadol y stori, sylweddolwn fod y prif gymeriad yn hyderus a chadarn ei gymeriad, sydd yn trin pobl yn deg. Er ei fod mewn sefyllfa gyda hen bobl ac er ei fod mewn sefyllfa anodd, ceisia ymddangos yn amyneddgar a chwrtais i'r bobl yn ei cwmni. Gwlewn ei hyder yn y llinell agoriadol pan ddywed “I can assure you that it will take a very tangible ghost to frighten me.” Ymddengys yn heriol iawn hefyd pan saif o flaen y tân gyda gwydryn yn ei law. Pan gyflwynir cymeriad y dyn gyda'r fraich ddiffrwyth, gwelir awyrgylch anghysurus yn y stori. Creir awyrgylch iasol drwy beri i'r darllenydd ystyried pam fod braich ddiffrwyth ganddo ac a oes a wnelo'r Ystafell Goch rhywbeth i'w wneud a'i fraich.

Dolenni allanol golygu