The Silence of the Lambs (ffilm)

Mae The Silence of the Lambs (1991) yn ffilm arswyd seicolegol a gyfarwyddwyd gan Jonathan Demme ac sy'n serennu Jodie Foster, Anthony Hopkins, Scott Glenn, Anthony Heald a Ted Levine. Mae'r ffilm yn seiliedig ar nofel o'r un enw gan Thomas Harris, ei ail nofel yn darlunio Dr. Hannibal Lecter, seiciatrydd gwych a llofruddiwr canibalaidd. Yn y ffilm, mae Clarice Starling, gwraig ifanc sy'n hyfforddi gyda'r FBI, yn troi at Lector sydd yn y carchar am ei bod eisiau ei gyngor ynglŷn â dal llofrudd arall sy'n cael ei adnabod yn unig fel "Buffalo Bill". Enillodd y ffilm bump o Wobrau'r Academi gan gynnwys y Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Sgript Orau, Actor Gorau a'r Actores Orau.[1]

The Silence of the Lambs

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Jonathan Demme
Cynhyrchydd Kenneth Utt
Edward Saxon
Ron Bozman
Ysgrifennwr Ted Tally
Serennu Jodie Foster
Anthony Hopkins
Scott Glenn
Ted Levine
Anthony Heald
Brooke Smith
Frankie Faison
Harry Northup
Cerddoriaeth Howard Shore
Sinematograffeg Tak Fujimoto
Golygydd Craig McKay
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Orion Pictures
Amser rhedeg 118 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Cyfeiriadau golygu

  1. 'Silence of the Lambs' Sweeps 5 Major Oscars LA Times; adalwyd 13 Ebrill 2009
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm arswyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.