The Sims (gêm fideo)

Gêm fideo strategol sy'n efelychu bywyd ac a ddatblygwyd gan y cwmni meddalwedd Maxis yw The Sims. Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Electronic Arts a hynny yn 2000. Mae'r chwaraewr yn trefnu ac yn datblygu bywyd cymeriadau rhithwir a elwir yn "Sims", mewn cartref neu dref ffuglenol.

The Sims
Enghraifft o'r canlynolgêm fideo Edit this on Wikidata
CrëwrWill Wright Edit this on Wikidata
CyhoeddwrElectronic Arts Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg, Saesneg, Sbaeneg, Iseldireg, Daneg, Ffrangeg, Eidaleg, Swedeg, Japaneg, Simlish Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi4 Chwefror 2000 Edit this on Wikidata
Genrelife simulation game, gêm fideo gyda chymeriad LHDT Edit this on Wikidata
CyfresThe Sims Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithSimNation Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJerry Martin Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.thesims.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clawr

Arweinydd y prosiect oedd Will Wright ac roedd y gêm yn ddatblygiad naturiol o gyfres o gemau cynharach, sef SimCity. Cafwyd 7 pecyn ehangu rhwng 2000 a 2003, er mwyn ychwanegu cymeriadau, arwynebau a nodweddion eraill newydd. Cafwyd hefyd sawl dilyniant: The Sims 2 yn 2004, The Sims 3 yn 2009, a The Sims 4 yn 2014.

Gwobrau golygu

Yn 2000, enillodd "Gêm y Flwyddyn" yn rhestr gemau GameSpot. Y flwyddyn wedyn, enillodd The Sims Brif Wobr Datblygwyr Gemau Fideo'r Flwyddyn, sef prif wobr y diwydiant gemau fideo, a gyflwynir yn flynyddol yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau. Hwn yw'r cyfarfod mwyaf o'i fath drwy'r byd ar gyfer datblygwyr 'gemau fideo' proffesiynol, ac fe'i gynhelir ym Mawrth yn San Francisco fel arfer.

Gwerthiant golygu

Erbyn 7 Chwefror 2005 roedd 16 miliwn o gopiau wedi'u danfon i siopau ledled y byd.[1] Dywedodd Will Wright fod y gêm, yn wahanol i lawer o gemau, yn apelio at ferched: 60% o'r chwaraewyr.[2] Cyhoeddodd Electronic Arts ym Mawrth 2009 fod The Sims fel franchise wedi gwerthu dros 100 miliwn o gopiau.[3] Rhestrwyd y gêm yn 2001 gan Game Informer fel yr 80fed gêm gorau erioed.[4] Yn Awst 2016 rhestrwyd The Sims yn Time yn 31fed Gêm Fideo Gorau Erioed.[5]

Yn 2012 dewisiwyd The Sims fel un o 14 o gemau fideo i'w harddangos yn yr Amgueddfa Celf Modern.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Sims Franchise Celebrates Its Fifth Anniversary and Continues to Break Records" (Press release). Electronic Arts. 7 Chwefror 2005. http://www.tmcnet.com/usubmit/2005/feb/1114806.htm. Adalwyd 8 Hydref 2008.
  2. Patrick Huguenin (15 Ebrill 2008). "Women really click with The Sims". NYDailyNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-22. Cyrchwyd 2018-06-04. But unlike other popular video and computer games, almost 60% of the people playing The Sims are female
  3. Boland, Eric (2010). The Sims: The Complete Guide. Vancouver: WTYW7 Books. t. 24. ISBN 978-0-557-84739-6. Cyrchwyd 10 Awst 2016.
  4. Cork, Jeff (16 Tachwedd 2009). "Game Informer's Top 100 Games Of All Time (Circa Issue 100)". Game Informer. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2013.
  5. "The 50 Best Video Games of All Time". Time. Time Inc. 23 Awst 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Awst 2016. Cyrchwyd September 19, 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Antonelli, Paola (Tachwedd 29, 2012). "Video Games: 14 in the Collection, for Starters". MoMA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Tachwedd 30, 2012. Cyrchwyd Tachwedd 30, 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)