Roedd The Supremes yn grŵp o gantorion benywaidd Americanaidd a oedd yn dod o Detroit, Michigan. Roedd pedwar aelod yn y grŵp gwreiddiol, a alwyd yn The Primettes. Ffurfiwyd y grŵp ym 1959. Yr aelodau gwreiddiol oedd Florence Ballard, Mary Wilson, Diana Ross a Betty McGlown, ac roeddent i gyd yn dod o gynllun cartrefu cyhoeddus Brewster-Douglass yn Detroit. Ym 1960 ymunodd Barbara Martin â'r grŵp yn lle McGlown ac arwyddodd y grŵp gytundeb recordio gyda Motown ym 1961 o dan yr enw The Supremes. Gadawodd Martin hefyd ar ddechrau 1962, a pharhaodd Ross, Ballard a Wilson fel triawd.

The Supremes