The Talented Mr. Ripley (ffilm)

ffilm ddrama llawn cyffro seicolegol gan Anthony Minghella a gyhoeddwyd yn 1999
(Ailgyfeiriad o The Talented Mr. Ripley)

Mae The Talented Mr. Ripley yn ffilm o 1999 a gyfarwyddwyd gan Anthony Minghella. Mae'r ffilm yn addasiad o nofel 1955 Patricia Highsmith. Cafodd ei ffilmio ym 1960 hefyd o dan yr enw Plein Soleil.

The Talented Mr. Ripley

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Anthony Minghella
Cynhyrchydd William Horberg
Tom Sternberg
Ysgrifennwr Patricia Highsmith (nofel)
Anthony Minghella (sgript)
Serennu Matt Damon
Jude Law
Gwyneth Paltrow
Cate Blanchett
Philip Seymour Hoffman
Jack Davenport
Cerddoriaeth Gabriel Yared
Sinematograffeg John Seale
Golygydd Walter Murch
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Paramount Pictures (UDA
Miramax Films (pob man arall)
Amser rhedeg 139 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Serennodd The Talented Mr. Ripley Matt Damon fel Tom Ripley, Gwyneth Paltrow fel Marge Sherwood, Jude Law fel Dickie Greenleaf, Cate Blanchett fel Meredith Logue (cymeriad a grëwyd ar gyfer y ffilm), Philip Seymour Hoffman fel Freddie Miles, Jack Davenport fel Peter Smith-Kingsley (cymeriad a ddatblygwyd ar gyfer y ffilm) a James Rebhorn fel Herbert Greenleaf.

Ffilmiwyd y rhan fwyaf o'r ffilm yn yr Eidal gyda dinasoedd fel Rhufain a Fenis yn cael eu defnyddio fel cefnlen i'r naratif.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.