Mae The West Wing yn gyfres ddrama Americanaidd ar gyfer y teledu, ac a grëwyd gan Aaron Sorkin. Fe'i darlledwyd yn wreiddiol rhwng 22 Medi 1999 a 14 Mai 2006 ar NBC. Lleolwyd y gyfres wleidyddol ei naws, yn bennaf, yn yr adain orllewinol o'r Tŷ Gwyn lle saif y Swyddfa Hirgrwn a swyddfeydd staff hŷn yr arlywydd ffuglennol Josiah Bartlet (a chwaraewyd gan Martin Sheen) yn ystod ei weinyddiaeth Ddemocrataidd.

The West Wing
Genre Drama wleidyddol
Crëwyd gan Aaron Sorkin
Serennu Rob Lowe
Alan Alda
Stockard Channing
Kristin Chenoweth
Dulé Hill
Allison Janney
Moira Kelly
Joshua Malina
Mary McCormack
Janel Moloney
Richard Schiff
John Spencer
Bradley Whitford
Jimmy Smits
Martin Sheen
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 7
Nifer penodau 156[1]
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 42 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol NBC
Rhediad cyntaf yn 22 Medi 1999 - 14 Mai 2006

Cynhyrchiwyd The West Wing gan Warner Bros. Television. Ar gyfer y pedair cyfres gyntaf, yr oedd tri uwch gynhyrchydd: Aaron Sorkin (a ysgrifennodd y rhan fwyaf o'r pedair cyfres gyntaf); Thomas Schlamme (prif olygydd); a John Wells. Ar ôl i Sorkin adael y gyfres, daeth Wells yn brif ysgrifennwr, gyda chyfarwyddwyr Alex Graves a Christopher Misiano (cyfresi 6-7), ac ysgrifenwyr Lawrence O'Donnell Jr. a Peter Noah (cyfres 7) yn troi'n uwch gynhyrchwyr.

Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar NBC yn 1999, ac y mae wedi cael ei darlledu ar nifer o sianeli mewn gwledydd eraill. Daeth y gyfres i ben ar 14 Mai, 2006 ar ôl saith cyfres.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Mae'r ffigur hwnnw yn cynnwys y penodau arbennig "Documentary Special" ac "Isaac and Ishmael".
  2. Keveney, Bill (22 Ionawr, 2006). "'West Wing' to end with new president". USA Today. Cyrchwyd 12 Chwefror, 2006. Check date values in: |accessdate=, |date= (help)