Mae The X Factor yn rhaglen deledu a ddechreuodd ym Mhrydain. Cafodd y rhaglen ei dyfeisio er mwyn disodli'r rhaglen hynod boblogaidd Pop Idol. Mae'r cystadlaethau sydd bellach yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o wledydd, yn cynnwys nifer o'r cyhoedd sy'n dymuno bod yn gantorion pop.

The X Factor
Genre Sioe dalentau
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 7
Nifer penodau 177 (erbyn 9 Hydref 201
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 - 120 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol ITV
Darllediad gwreiddiol 4 Medi, 2004 – Presennol
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol
Map yn dangos rhai o'r gwledydd sydd â'u fersiynau eu hunain o 'The X Factor'

Mae'r "X Factor" yn cyfeirio at "rywbeth" na ellir ei ddiffinio sydd yn gwneud rhywun yn seren. Gan amlaf cytundeb recordio yw'r wobr yn ogystal â'r cyhoeddusrwydd mae'r rhaglenni olaf y gyfres yn darparu, nid yn unig i'r enillydd ond hefyd i'r cystadleuwyr eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.