Mae theatr guerrilla neu theatr gerila[1][2] yn fath o gyfathrebu guerrilla a darddodd yn 1965 o waith y San Francisco Mime Troupe. Roedd y gwaith hwn yn ysbryd ysgrifau Che Guevara, a fathodd y term guerrilla. Perfformiai'r San Francisco Mime Troupe mewn mannau cyhoeddus, er mwyn creu "newid chwyldroadol yn y byd cymdeithasol-wleidyddol",[2] ac yn erbyn ryfel Fietnam a chyfalafiaeth. Weithiau, roedd eu gwaith yn cynnwys noethni, rhegfeydd a thabŵ a oedd yn frawychus i rai aelodau o gynulleidfaoedd y cyfnod.[2]

Theatr guerrilla
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o theatr Edit this on Wikidata
Perfformiad o Godfellas yn 2006

Mae guerrilla (Sbaeneg am "ryfel bach"), pan yn cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun digwyddiadau theatrig, yn disgrifio'r weithred o berfformiadau digymell, annisgwyl mewn mannau cyhoeddus annhebygol i gynulleidfa nad yw'n ei ddisgwyl. Yn nodweddiadol, mae'r perfformiadau hyn yn ceisio tynnu sylw at fater gwleidyddol / cymdeithasol trwy ddychan, protest, a thechnegau carnifal. Roedd llawer o'r perfformiadau hyn yn ganlyniad uniongyrchol i fudiadau cymdeithasol radical diwedd y 1960au i ganol y 1970au.[3] Mae Theatr Guerrilla, sydd weithiau'n cael ei gyfeirio ato fel "perfformiad guerrilla", wedi ei gysylltu'n achlysurol â theatr agitprop y 1930au,[4][5] ond mae'n wahanol i agitprop gan ei fod yn cynnwys tactegau perfformiad Dada.

Cyfeiriadau golygu

  1. Richard Schechner, "Guerrilla Theatre: Mai 1970", The Drama Review 14:3 [T47] (1970), 163-168.
  2. 2.0 2.1 2.2 Gordon, Kelly Carolyn (2007) Guerrilla theater, yn Gabrielle H. Cody, Evert Sprinchorn (2007) The Columbia encyclopedia of modern drama, Cyfrol 1, tt.568-9
  3. Random House Webster’s College Dictionary. New York: Random House, 1992, pp.593
  4. Filewod, Alan (2003) Modernism and Genocide, yn Richard Paul Knowles, William B. Worthen, Joanne Tompkins Modern drama: defining the field, t. 167
  5. Oscar Brockett, History of the Theatre (Needham Heights, Massachusetts: Simon & Schuster, 1995), t. 575