Theatrum Orbis Terrarum

Ystyrir Theatrum Orbis Terrarum fel yr atlas modern cyntaf. Ysgrifennwyd gan Abraham Ortelius ac argraffwyd yn wreiddiol ar 20 Mai 1570, yn Antwerp.[1] Roedd yn cynnwys casgliad o daflenni map unffurf a thestun wedi eu rhwymo i ffurfio llyfr. Cyfeirir at atlas Ortelius weithiau fel crynodeb o gartograffeg y 16g.

Theatrum Orbis Terrarum
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, atlas, gwaith cartograffig Edit this on Wikidata
Deunyddpapur, inc Edit this on Wikidata
AwdurAbraham Ortelius Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi20 Mai 1570 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 g Edit this on Wikidata
Olynwyd ganCivitates orbis terrarum Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map y byd o'r atlas Theatrum Orbis Terrarum.

Cynnwys golygu

Mae llawer o'r mapiau yn yr atlas yn seiliedig ar ffynonellau nad ydynt yn bodoli mwyach neu sy'n brin iawn. Atododd Ortelius rhestr ffynhonnell unigryw (y "Catalogus Auctorum") sy'n nodi enwau gartograffwyr cyfoes, rhai a fyddai fel arall wedi aros yn anadnabyddus.

Argraffiadau golygu

Ar ôl cyhoeddi ei Theatrum Orbis Terrarum cyntaf, fe ddiwygiodd ac ehangodd Ortelius yr atlas yn rheolaidd, gan ei ailgyhoeddi mewn gwahanol fformat hyd at ei farwolaeth yn 1598. O'r 70 map gwreiddiol ac 87 o gyfeiriadau llyfryddol yn yr argraffiad cyntaf (1570), tyfodd y atlas drwy ei dri deg un gahanol argraffiad i gynnwys 183 o gyfeiriadau a 167 map yn 1612.

Mae Additamentum 1573 i'r atlas yn nodedig am ei fod yn cynnwys Cambriae Typus gan Humphrey Llwyd, y map cyntaf i ddangos Cymru ar ei ben ei hun.[2]

O'r 1630au ymlaen, dyma'r teulu Blaeu yn cyhoeddwyd eu gwaith o dan deitl tebyg, Theatrum Orbis terrarum, sive, Atlas Novus.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Map o ardal cynhyrchu aur Periw. Florida. Rhanbarth Guastecan". World Digital Library. Cyrchwyd 28 Mai 2013. (Saesneg)
  2. Cambriae Typus Archifwyd 2013-05-11 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dolenni allanol golygu