Therapi amnewid nicotin

Mae therapi amnewid nicotin (TAN) yn ffordd gymeradwy o gymryd nicotin trwy gyfrwng heblaw tybaco[1]. Fe'i defnyddir i helpu i roi'r gorau i ysmygu neu atal cnoi tybaco. Mae'n cynyddu'r siawns o roi'r gorau i ysmygu o tua 50% i 70%. Yn aml, fe'i defnyddir ynghyd â thechnegau ymddygiadol eraill. Mae TAN hefyd wedi cael ei ddefnyddio i drin colitis hylifol. Mae mathau o TAN yn cynnwys patsys croen, gwm cnoi, losinen, chwistrell trwyn, ac anadlydd. Gall y defnydd o fwy nag un math o TAN ar yr un pryd cynyddu effeithiolrwydd y therapi.

Therapi amnewid nicotin
Pats croen TAN
Enghraifft o'r canlynolcyffur hanfodol Edit this on Wikidata
Mathreplacement therapy Edit this on Wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america d edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gwahanol sgil effeithiau i'r wahanol ffurf o TAN cyffredin. Mae sgil effeithiau cyffredin y gwm yn cynnwys cyfog, hylif, a llid y geg. Mae sgil effeithiau cyffredin gyda'r patys yn cynnwys llid y croen a cheg sych tra bo'r anadlydd yn aml yn arwain at beswch, trwyn yn rhedeg a chur pen. Mae sgil effeithiau difrifol yn cynnwys gwenwyno gan nicotin a dibyniaeth barhaus. Nid yw'n ymddangos eu bod yn cynyddu'r risg o drawiadau ar y galon. Mae yna berygl o greu niwed posibl i'r babi os defnyddir TAN yn ystod beichiogrwydd. Mae therapi amnewid nicotin yn gweithio trwy leihau'r blys am dybaco oherwydd caethiwed i nicotin.

Cymeradwywyd TAN gyntaf fel meddyginiaeth yn yr Unol Daleithiau ym 1984, fe fu ar gael i brynu mewn siopau a fferyllfeydd yn y DU tua'r un cyfnod ond ni chafodd ei gymeradwyo fel meddyginiaeth ym Mhrydain tan 2005[2]. Mae cynhyrchion amnewid nicotin ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Maent ar gael fel meddyginiaeth generig ac o dan enwau brand. Y brandiau mwyaf cyffredin ym Mhrydain yw Nicorette, Niquitin a Nicotinell.

Mae TAN ar gael tros y cownter heb bresgripsiwn neu trwy bresgripsiwn gan feddyg. Mae TAN hefyd ar gael yng nghyd a therapi a chyngor i roi'r gorau fel rhan o wasanaeth Helpa Fi Stopio Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru[3].

Yn 2015, gostyngodd gwerthiant TAN am y tro cyntaf ers 2008 tra bod gwerthiannau ar gyfer e-sigaréts yn parhau i gynyddu ar gyfradd sylweddol. Arweiniodd hyn at ddyfalu bod ysmygwyr y Deyrnas Unedig yn ceisio rhoi'r gorau iddi gydag e-sigaréts yn hytrach na dulliau traddodiadol TAN. Cyngor GIG Cymru yw bod e- sigaréts yn iachach nac ysmygu ond eu bod yn fwy peryglus na dulliau eraill o TAN[4].

Cyfeiriadau golygu

Rhybudd Cyngor Meddygol golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!