There Will Be Blood

ffilm ddrama a seiliwyd ar nofel gan Paul Thomas Anderson a gyhoeddwyd yn 2007

Mae There Will Be Blood yn ffilm o 2007 a gafodd ei hysgrifennu, ei chyfarwyddo a'i chynhyrchu gan Paul Thomas Anderson. Mae'r ffilm wedi ei seilio'n fras ar nofel Upton Sinclair Oil! (1927). Adrodda hanes cloddiwr-arian sy'n dechrau ym myd olew ar ei siwrnai ddidostur am gyfoeth yn ystod bŵm olew De California ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Mae Daniel Day-Lewis a Paul Dano yn actio yn y ffilm. Dechreuwyd ar y broses ffilmio yng nghanol mis Mai ym Mecsico Newydd a Marfa, Texas gyda'r prif ffilmio'n dod i ben ym mis Awst 2006. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf ar y 29ain o Fedi 2007, yn Fantastic Fest yn Austin, Texas. Rhyddhawyd y ffilm ar y 26ain o Ragfyr 2007 yn Efrog Newydd a Los Angeles, ac yna agorodd mewn nifer cyfyngedig o theatrau wedi hynny. Rhyddhawyd y ffilm yn swyddogol ar y 25ain o Ionawr, 2008.

There Will Be Blood

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Paul Thomas Anderson
Cynhyrchydd Paul Thomas Anderson
Daniel Lupi
Joanne Sellar
Scott Rudin (Uwch Gynhyrchydd)
Ysgrifennwr Paul Thomas Anderson(Ffilm) Upton Sinclair (Nofel)
Serennu Daniel Day-Lewis
Paul Dano
Dillon Freasier
Cerddoriaeth Jonny Greenwood
Sinematograffeg Robert Elswit
Golygydd Dylan Tichenor
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Paramount Vantage Yn rhyngwladol:Miramax Films
Amser rhedeg 158 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Derbyniodd y ffilm glod uchel wrth y beirniaid ac fe'i henwebwyd am nifer o wobrau. Ymddangosodd y ffilm ar ddeg uchaf nifer o'r beirniaid am y flwyddyn, gan gynnwys y Gymdeithas Genedlaethol o Feirniaid Ffilm a Chymdeithas Beirniaid Ffilm Los Angeles. Ennillod Day-Lewis Oscar, BAFTA, Golden Globe, Screen Actors' Guild, NYFCC, a gwobr Actor Gorau IFTA am ei berfformiad. Enwebwyd y ffilm am wyth o Wobrau'r Academi gan ennill y teitl o Actor Gorau i Day-Lewis a'r Sinematograffeg Gorau i Robert Elswit.