Hanesydd o Sais oedd Thomas Carte (hefyd John Carte) (16862 Ebrill 1754).

Thomas Carte
Ganwyd1686 Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ebrill 1754 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata

Ganed Carte yn Clifton upon Dunsmore, ger Rugby yn Swydd Warwick rywbryd yn 1686. Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen (1702) a Choleg y Brenin, Caergrawnt, lle graddiodd gyda MA yn 1706. Roedd yn deyrngar i achos y Stuartiaid a bu rhaid iddo ffoi i Ffrainc ar ôl iddo gael ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth yn 1722.

Cododd hanesyn Syr John Wynn o Wydir am gyflafan y beirdd a'i gyhoeddi yn ei General History of England. Cydiodd yr hanesyn yn nychymyg beirdd ac artistiaid Rhamantaidd dros Glawdd Offa. Daeth hanes y "gyflafan" yn enwog diolch i'r gerdd The Bard gan Thomas Gray lle mae'r bardd olaf yn melltithio Edward I ac yn proffwydo dinistr ar ei ddisgynyddion. Cafodd Gray yr hanesyn o lyfr Carte yn 1755 ac ysgrifennwyd y gerdd ganddo yn 1757 ar ôl clywed Edward Jones (Bardd y Brenin) yn canu alawon Cymreig ar ei delyn.[1]

Llyfrau Carte golygu

  • Life of James Duke of Ormonde (3 cyfrol, 1735–36; argraffiad newydd, Rhydychen 1851)
  • A General Account of the Necessary Materials for a History of England (1738)
  • History of the Revolutions of Portugal, with letters of Sir Robert Southwell during his embassy there (Llundain, 1740)
  • A General History of England (pedair cyfrol: 1747, 1750, 1752, 1755).

Cyfeiriadau golygu

  1. Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981), tud. 120.