Thomas Evan Nicholas

bardd, gweinidog yr Efengyl a lladmerydd dros y Blaid Gomiwnyddol

Bardd, pregethwr a gwleidydd oedd Thomas Evan Nicholas, neu Niclas y Glais (6 Hydref 187919 Ebrill 1971). Fe'i ganwyd yn Llanfyrnach, Sir Benfro.

Thomas Evan Nicholas
Niclas y Glais (chwith) yn sgwrsio gyda D. J. Williams yn rali CND yn Aberystwyth; 1961. Llun gan Geoff Charles.
FfugenwNiclas y Glais Edit this on Wikidata
Ganwyd6 Hydref 1879 Edit this on Wikidata
Llanfyrnach Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ebrill 1971 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Gwynfryn Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Cafodd ei addysg yn Academi'r Gwynfryn, Rhydaman. Ymhlith ei athrawon oedd Watcyn Wyn a Gwili (John Jenkins). Treuliodd ddeng mlynedd yn gweinidogi ym mhentref glofaol y Glais, yng ngorllewin Morgannwg, lle daeth i nabod y gweithwyr a'u bywyd. Cafodd y profiad effaith angerddol arno a dechreuodd farddoni dan yr enw barddol 'Niclas y Glais'. Daeth yn sosialydd brwd a chefnogai'r Blaid Lafur Annibynnol newydd. Roedd yn gyfaill i Keir Hardie ac edmygai waith a syniadau'r bardd R. J. Derfel a'r gwleidydd Robert Owen. Roedd yn heddychwr a siaradai yn gyhoeddus yn erbyn erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf, gan ennyn dig yr awdurdodau. Yn 1920 roedd yn un o sefydlwyr Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr.[1]

Cafodd ei arestio a'i garcharu yn 1940 pan ddaeth yr heddlu ar draws swasticas bach papur coch yn ei gartref. Does dim dwywaith nad oedd Niclas yn rebel ac yn pregethu yn erbyn y drefn ond daeth yn glir pan ryddhawyd dogfennau gan yr Archif Brydeinig yn Kew nad oedd dim sail i gyhuddiadau'r heddlu. Roedd yn amlwg fod y Prif Gwnstabl a oedd wedi gorchymun arestio Niclas yn gwbwl ragfarnllyd, pan ddaeth gerbron y Pwyllgor Apel. Roedd y baneri bach gyda'r swasticas wedi dod gyda map o'r rhyfel am ddim yn y papur dyddiol y Daily Telegraph.

Treuliodd ei amser yn y carchar yn Abertawe a Brixton yn barddoni gan ysgrifennu'r cerddi ar bapur tŷ bach y carchar; fe'u cyhoeddywd yn y gyfrol Canu'r Carchar (1942) ac mae'r gwreiddiol i'w cael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Roedd yn fardd toreithiog iawn. Prif themau ei gerddi yw anghyfiawnder, y frwydr rhwng y dosbarth gweithiol a grymoedd cyfalafiaeth, a heddychaeth.

Ef piau'r bennill enwog:

Mae'r byd yn fwy na Chymru
Rwy'n gwybod hynny'n awr,
A diolch fod hen Gymru fach
Yn rhan o fyd mor fawr.

Llyfryddiaeth golygu

Cerddi Niclas y Glais golygu

  • Salmau'r Werin (1909)
  • Cerddi Gwerin (1912)
  • Cerddi Rhyddid (1914)
  • Dros Eich Gwlad (1920)
  • Terfysgoedd Daear (1939)
  • Llygad y Drws (Llandysul, 1940)
  • Canu'r Carchar (Llandysul, 1942)
  • Y Dyn a'r Gaib (1944)
  • Dryllio'r Delwau (1941)
  • Rwy'n Gweld o Bell (1963)

Llyfrau ac erthyglau amdano golygu

  • S Howys, 'Hir Oes i Ysbryd Niclas', Barn, 365 (Mehefin 1993), t.35
  • G. Jones, 'In Search of Niclas y Glais', New Welsh Review, Cyfrol 56 (2002), tt.69-70
  • David A. Pretty, 'Gwrthryfel y Gweithwyr Gwledig yng Ngheredigion, 1889-1950', Ceredigion, Cyfrol 11, Rhif 1 (1988/1989), tt.41-57
  • D. Howell, Nicholas of Glais – The People’s Champion (Clydach, 1991)

Cyfeiriadau golygu

  1. T. E. Nicholas (Niclas y Glais) Archifwyd 2013-10-16 yn y Peiriant Wayback., Prosiect 'Maes y Gad i Les y Wlad', Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dolenni allanol golygu