Thomas Jeremiah Williams

Roedd Thomas Jeremiah Williams (1872 - 12 Mehefin 1919) yn fargyfreithiwr, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol.

Thomas Jeremiah Williams
Ganwyd1872 Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mehefin 1919 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadWilliam Williams (AS Abertawe) Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Roedd Thomas Jeremiah Williams, yn fab i William Williams Aelod Seneddol Dosbarth Abertawe. Cafodd ei addysgu yn University College School, Llundain, Coleg Technegol Sheffield a Choleg Firth.

Priododd Laura Alice Marlow. Ganwyd iddynt un ferch: Gwenith Alice Thomas (née Williams) 22/10/1913 - 11/01/2008.

Gyrfa golygu

Roedd Williams yn gweithio yn y sector hyfforddiant technegol a masnachol. Roedd yn gyfarwyddwr ar nifer o gwmnïau, yn bennaf yn y diwydiant tunplat, ond hefyd â buddiannau yn y sectorau pwll glo a'r rheilffordd. Cymhwysodd yn fargyfreithiwr ym 1902 gan ymarfer yng Nghylchdaith Cymru a Chaer.[1]

Gyrfa Gwleidyddol golygu

Safodd Williams yn enw'r Blaid Ryddfrydol yn etholaeth Gŵyr gan gael ei drechu gan ymgeisydd Rhyddfrydol Llafur, Eryr Glan Gwawr ym 1906, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Dosbarth Abertawe mewn isetholiad ym 1915 gan ddal y sedd hyd ddiddymu'r sedd ym 1918. Cafodd ei ethol yn AS cyntaf etholaeth newydd Dwyrain Abertawe ym 1918, ond bu farw yn 47 mlwydd oed y flwyddyn ganlynol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Liberal MP Dead LLGC Papurau Cymru arlein Abergavenny Chronicle 20 Mehefin 1919 [1] adalwyd 19 Tach 2014
  2. MR. T.J. WILLIAMS M.P. FOR SWANSEA EAST PASSES AWAY TO-DAY LLGC Papurau Cymru Arlein Cambrian Daily Leader 12 Mehefin 1919 [2] adalwyd 19 Tach 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Brynmor Jones
Aelod Seneddol dros Dosbarth Abertawe
19151918
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Dwyrain Abertawe
19181919
Olynydd:
David Matthews