Bardd a dramodydd Seisnig oedd Thomas Middleton (bedyddiwyd 18 Ebrill 1580 – Gorffennaf 1627). Cyd-weithiodd a Thomas Dekker a John Webster, ac roedd rhai yn drysu rhyngddo a William Shakespeare.

Thomas Middleton
Ganwyd18 Ebrill 1580, 28 Ebrill 1580 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw4 Gorffennaf 1627 (yn y Calendr Iwliaidd), 2 Gorffennaf 1627 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, bardd, ysgrifennwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Changeling, Women Beware Women Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl hon am y bardd Seisnig. Am yr erthygl am y bardd o'r Waun o'r un cyfnod, gweler Thomas Myddleton.

Bywyd golygu

Ganed yn Llundain yn fab i adeiladwr cyfoethog. Aeth i Goleg y Frenhines, Rhydychen, cyn cadael heb raddio, ym 1598. Priododd ym 1603.

Gwaith golygu

Cyhoeddodd gerddi tra yn Rhydychen tua 1600. Gwaharddwyd ei waith ar y pryd gan y sensor. Dechreuodd ysgrifennu pamffledi fel Penniless Parliament of Threadbare Poets a recordwyd ei waith gan Philip Henslowe yn ei ddyddiadur. Roedd yn gyfaill i Thomas Dekker ond yn elyniaethus at Ben Jonson a George Chapman yn y War of the Theatres. Ysgrifennodd Jonson drama The Staple of News sy'n enllibio drama Middleton, A Game at Chess.

Erbyn 1610, cydweithiodd Middleton â'r actor William Rowley, ac yn 1620, cafodd swydd "City Chronologer" ar gyfer Dinas Llundain. Daliodd y swydd tan 1627, pan aeth y swydd i Ben Jonson. Daeth ddiwedd ar ei ddramau yn 1624, pan waharddwyd A Game at Chess gan y Cyfrin Gyngor, ac dysgrifennodd dim byd wedyn. Bu farw yn ei dŷ yn Newington Butts ym 1627.

Dramau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Trevor Howard Howard-Hill (1995). Middleton's "Vulgar Pasquin": Essays on A Game at Chess (yn Saesneg). University of Delaware Press. t. 156. ISBN 978-0-87413-534-3.