Thomas Parry (ysgolhaig)

ysgolhaig, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifathro Prifysgol, bardd

Ysgolhaig, beirniad llenyddol a golygydd Cymreig oedd Syr Thomas Parry (4 Awst 190422 Ebrill 1985). Fe'i ganed yng Ngharmel, Arfon (Gwynedd). Roedd Gruffudd Parry yn frawd iddo, a Thomas Herbert Parry-Williams ac R. Williams Parry yn gefndryd. Bu f. 22 Ebrill 1985 ym Mangor a'i angladd 24 Ebrill. Bu farw ei briod Enid Parry 21 Ionawr 1998.

Thomas Parry
Ganwyd4 Awst 1904 Edit this on Wikidata
Carmel, Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ebrill 1985 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllyfrgellydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd yr Academi Brydeinig, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addysg golygu

Thomas oedd yr hynaf o dri brawd a anwyd i Richard Edwin Parry, chwarelwr a thyddynnwr, a'i wraig Jane (née Williams) ym Mrynawel, Carmel, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw).[1] Priododd tad Richard Parry deirgwaith: mab iddo o'i briodas gyntaf oedd tad Robert Williams Parry; mab arall iddo, o'i ail briodas, oedd tad T. H. Parry-Williams. Mynychodd Ysgol y Babanod, Carmel, ysgol elfennol Penfforddelen ac Ysgol y Sir, Pen-y-groes. Yn 1922 enillodd Ysgoloriaeth Fynediad i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru.

Gyrfa golygu

Bu'n bennaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru (19531958) pan benodwyd ef yn brifathro ar Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (19581969). Roedd yn brifathro yno pan oedd Charles Windsor yn fyfyriwr, er ei fod yn poeni'n ddifrifol am yr awyrgylch yn Aberystwyth ac y rhybuddiodd yr awdurdodau na allai dderbyn cyfrifoldeb am ddiogelwch y Tywysog.[2] Graddiodd yn y Gymraeg gydag anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf flwyddyn yn hwyr, sef yn 1926, am iddo golli'r rhan fwyaf o'i ail flwyddyn oherwydd y dwymyn goch a'r pliwrisi. Yno cymerasai Ladin fel pwnc atodol. Wedi graddio cafodd swydd darlithydd cynorthwyol mewn Cymraeg a Lladin yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â darlithio mewn dwy adran, yn 1929 gorffennodd ei draethawd MA ar 'Fywyd a Gwaith Siôn Dafydd Rhys'. Yno hefyd y cyfarfu ag Enid, a phriodwyd y ddau ar 20 Mai, 1936.

Ar farwolaeth Syr John Morris-Jones yn 1929, penodwyd ef yn ddarlithydd o dan Ifor Williams yn ei hen Adran ym Mhrifysgol Bangor. Pan gyhoeddwyd Gwaith Dafydd ap Gwilym yn 1952 yn gyfrol 800 tudalen fe'i cydnabuwyd fel un o gampweithiau mawr ysgolheictod Cymraeg a gwobrwywyd ef gyda DLitt Prifysgol Cymru. Yn 1959 etholwyd ef yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig. Yn 1947, penodwyd ef i Gadair y Gymraeg, ac yna'n Ddeon ei Gyfadran ac yn Is-Brifathro'r coleg.

Yn 1953 derbyniodd wahoddiad i fod yn Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn ystod ei gyfnod yno bu'n Gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wedi pum mlynedd yn y Llyfrgell fe'i penodwyd yn Brifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn ôl Derec Llwyd Morgan:[1]

Yn academaidd, ffynnodd Aberystwyth o dan ei arweiniad; yn gymdeithasol a chorfforaethol, er i'r Piwritan o Arfon yn awr ac eilwaith ei chael hi'n anodd dygymod â moesau ac arferion ieuenctid rhyddfrydig y cyfnod, yr oedd yn bennaeth cywir i'w staff ac yn bennaeth gofalus o'i fyfyrwyr. Yr oedd yn Brifathro llwyddiannus y perchid ef gan bawb bron.

Pan ymddeolodd o'i Brifathrawiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1969, fe'i etholwyd yn Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, swydd a ddaliodd am ddeng mlynedd.

Y llenor golygu

Enillodd Goron yr Eisteddfod Gyd-golegol yn 1923, y Gadair yn ogystal â'r Goron y flwyddyn ganlynol, a chyhoeddodd nifer o'i delynegion yn Barddoniaeth Bangor (1924).

Golygodd waith Dafydd ap Gwilym yn y gyfrol Gwaith Dafydd ap Gwilym ac ysgrifennodd hefyd y gyfrol Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900. Ef oedd golygydd Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (yr Oxford Book of Welsh Verse) (1962).

Tra'n darlithio ym Mangor cyhoeddodd nifer o erthyglau ar Siôn Dafydd Rhys a'i Ramadeg, y testunau Cymraeg Canol, Peniarth 49 (yn 1929), Theater du mond (1930) a'r Sant Greal (1933), ei gyfieithiad (ar y cyd ag R. Hughes) o Hedda Gabler (1930), a'r awdl “Mam” nad enillodd iddo'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, ond a gyhoeddwyd fel 'yr awdl orau yn ôl' ei gefnder y Dr. T. H. Parry-Williams (Cerddi'r Lleiafrif, 1932). Yn y cyfnod hwn hefyd y dechreuodd gyhoeddi geiriau caneuon, cyfieithiadau a chyfaddasiadau gan mwyaf. Y mwyaf gwreiddiol o'i lyfrau ysgolheigaidd yn y 1930au oedd Baledi'r Ddeunawfed Ganrif (1935), sydd yn ôl Derec Llwyd Morgan yn "astudiaeth awdurdodol, ragfarnllyd, dra difyr o beth o farddoniaeth boblogaidd y ganrif honno".

Anrhydeddau golygu

Derbyniodd DLittCelt er anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon yn 1968 a rhoddwyd iddo LLD er anrhydedd yn 1970 gan Brifysgol Cymru. Rhoddwyd iddo Fedal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1976. Rhwng 1978 a 1982 ef oedd Llywydd y Gymdeithas honno. Urddwyd ef yn farchog yn 1978.

Llyfryddiaeth golygu

  • Thomas Parry, Llywelyn Fawr (Lerpwl, 1954).
  • Rachel Bromwich, Thomas Parry, D. J. Bowen, ‘Ai yn Nhalyllychau y claddwyd Dafydd ap Gwilym?’, Barddas, rhif 87/88 (Gorffennaf/Awst 1984), tt. 14–16.
  • Thomas Parry, ‘Cyflwyniad’ gan J. E. Caerwyn Williams, Amryw Bethau (Dinbych, 1996).
  • Thomas Parry, Baledi’r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1935).
  • Thomas Parry, ‘Yn ôl ag ymlaen’ (rhagymadrodd), yn (deth. a gol.) J. E. Caerwyn Williams, Barddoniaeth Bangor (Aberystwyth, 1938), tt. xiii–xvii.
  • Thomas Parry, ‘Barddoniath Dafydd ap Gwylim’, Journal of the Welsh Bibliographical Society, vol. 8, rhif 4 (Gorffennaf 1957), tt. 189–199.
  • Thomas Parry ac Amanwy, Cerddi’r Lleiafrif (Aberystwyth, 1932).
  • (Gol.) R. T. Jenkins a Thomas Parry, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau: Eisteddfod Genedlaethol, 1941 (Hen Golwyn) (Lerpwl, 1941).
  • George Bernard Shaw, (cyf.) Thomas Parry, ‘Cyfieithiad Thomas Parry o olygfa gyntaf y ddrama “Saint Joan” gan George Bernard Shaw’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyfrol 30, rhif 1 (Haf 1997), tt. 107–127.
  • Thomas Parry, ‘Cyflwyno’r byd i werin Cymru’, Casglwr, rhif 12 (Nadolig 1980), t. 13.
  • Thomas Parry, ‘Cyfres y sant’, Casglwr, rhif 10 (Mawrth 1980), t. 5.
  • Thomas Parry, ‘Cystadleuaeth Llyfrau’r Dryw’, Heddiw, cyfrol 7, rhif 4 (Medi–Rhagfyr 1942), tt. 115–119.
  • Thomas Parry, ‘Cytseiniaid heb eu hateb’, Barddas, rhif 33 (Medi 1979), tt. 6–7.
  • Thomas Parry, ‘Dafydd ap Gwilym a’r cyfrifiadur’, Ysgrifau Beirniadol, 13 (1985), tt. 114–122.
  • Thomas Parry, ‘Daniel Silvan Evans, 1818–1903’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodion (1981), tt. 109.
  • Thomas Parry, ‘Datblygiad y Cywydd’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodion (1939), tt. 109–125.
  • Thomas Parry, ‘Dechrau Amryw Bethau’, Traethodydd, cyfrol 148, (,).
  • Thomas Parry, ‘Dosbarthu’r llawysgrifau barddoniaeth’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, vol. 9, rhan 1 (Tachwedd 1937), tt. 1–8.
  • Thomas Parry, ‘Dysgu gyrru’, Llais Llyfrau, (Haf 1992), tt. 7–8.
  • Thomas Parry, (tros. i’r Saesneg) R. T. Jenkins, Eisteddfod y Cymry (Llundain 1943).
  • Thomas Parry, ‘Emynwyr Eifionydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, cyfrol 1, rhif 9 (Gorffennaf 1976), tt. 245–257.
  • Thomas Parry, ‘Gair y Gwybod’, Y Casglwr, rhif 11 (Awst 1980), t. 12.
  • Thomas Parry, ‘Geiriadur anarferol hen Gymro cartrefol’, Casglwr, rhif 22, (Mawrth 1984), t. 7.
  • Thomas Parry, ‘Gormes y gynghanedd’, Barddas, rhif 13, (Tachwedd 1977), tt. 1–2.
  • Thomas Parry, ‘Gramadeg Siôn Dafydd Rhys’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, vol. 6, rhan 1 (Tachwedd 1931), tt. 55–62.
  • Thomas Parry, ‘Gramadeg Siôn Dafydd Rhys’ [Parhad], Bulletin of the Board of Celtic Studies, vol. 6, rhan 3 (Tachwedd 1932), tt. 225–231.
  • Thomas Parry, ‘Hanes yr Awdl’, yn (casg.), Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, Awdlau Cadeiriol Detholedig 1926–1950 (Dinbych, 1953), tt. ix–xvi .
  • Thomas Parry, Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1952).
  • Thomas Parry, ‘Gweisg Preifat’, Casglwr, rhif 4 (Mawrth 1978), t. 12.
  • Thomas Parry, ‘Gwella’r da yn America’, Casglwr, rhif 20 (Awst 1983), t. 16.
  • Thomas Parry, Hanes ein Llên (Caerdydd, 1948).
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd 1944).
  • Thomas Parry, Hanes yr Eisteddfod, a Cynan, Eisteddfod Genedlaethol a’r Orsedd Heddiw, (Lerpwl, D.D). [1960au] [Gyda’r llun ‘Elisabeth o Windsor’]
  • Henrik Ibsen, (cyf.) Thomas Parry a R. H. Hughes, Hedda Gabler (Bangor, 1930).
  • Thomas Parry, ‘Yr hen ryfeddod o Langwm’, Casglwr, rhif 16 (Mawrth 1982), t. 16.
  • Thomas Parry, ‘Hendregadredd’, Casglwr, rhif 15 (Nadolig 1981), t. 5.
  • Thomas Parry, (cyf. i’r Saesneg gan) H. Idris Bell, A History of Welsh Literature (Rhydychen, 1955).
  • Thomas Parry, ‘John Gwilym Jones a’r ddrama Gymraeg yng Ngholeg Bangor’, Llwyfan, cyfrol 6 (Gaeaf 1971), tt. 2–6.
  • Thomas Parry, ‘John Owen – Epigramydd’, Casglwr, rhif 19 (Mawrth 1983), t. 3.
  • Thomas Parry, Llenyddiaeth Gymraeg, 1900–1945 (Lerpwl, 1945).
  • (Gol.) Thomas Parry a Merfyn Morgan, Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1976).
  • Thomas Parry, ‘Cyflwyniad’, yn Huw Llywelyn Williams, (gol.) Derwyn Jones, Llygadau Heulog (Caernarfon, 1979).
  • J. E. Caerwyn Williams, Henry Lewis a Thomas Parry, ‘Nodiadau cymysg’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, vol. 15, rhan 1, (Tachwedd, 1952), tt. 33–38.
  • Thomas Parry, The Oxford Book of Welsh Verse (Rhydychen, 1962).
  • Thomas Parry, ‘Prifysgol a gwerin’, Casglwr, rhif 13 (Mawrth 1981), t. 6.
  • Thomas Parry, ‘Pynciau Cynghanedd’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, vol. 10, rhan 1 (Tachwedd 1939), tt. 1–5.
  • Thomas Parry, Saint Greal (Aberystwyth, 1933).
  • Thomas Parry, ‘Y Seren Fore’, Casglwr, rhif 9 (Nadolig 1979), t. 14.
  • Thomas Parry, ‘Statud Gruffudd ap Cynan’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, vol. 5, rhan 1 (Tachwedd 1929), tt. 25–33.
  • Rhosier Smyth, (gol.) Thomas Parry, Theater du Mond (Caerdydd, 1930).
  • Thomas Parry, ‘Tri chyfeiriad at William Salesbury’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, vol. 9, rhan 2 (Mai 1938), tt. 108–112.
  • Thomas Parry, ‘Twf y gynghanedd’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (Llundain, 1936), tt. 143–160.
  • Thomas Parry, Tŷ a thyddyn (Caernarfon, 1972).
  • Thomas Parry, Tystiolaeth y tadau (Dinbych, 1942).
  • Thomas Parry, The Welsh metrical treatise attributed to Einion Offeriad (Llundain, 1961).
  • Thomas Parry, ‘Cyflwyniad’, yn R. E. Jones, Llyfr o Idiomau Cymraeg (Abertawe, 1975), tt. 5–8.
  • (Copïwyd a gol.) Thomas Parry, Adysgrifau o’r Llawysgrifau Cymraeg, VI Peniarth 49 (Caerdydd, 1929).
  • Tom Parry, 'Mynegai i weithiau Ifor Williams', Gwasg Prifysgol Cymru, 1939

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Y Bywgraffiadur cymraeg Arlein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd 14 Awst 2017.
  2. bbc.co.uk; adalwyd 14 Awst 2017.

Dolenni allanol golygu

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Thomas Parry ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.