Thomas Picton

milwr

Cadfridog Cymreig a laddwyd ym Mrwydr Waterloo oedd Syr Thomas Picton (24 Awst 175818 Mehefin 1815).

Thomas Picton
Ganwyd24 Awst 1758 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 1815 Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Brwydr Waterloo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Hwlfordd Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadThomas Picton Edit this on Wikidata
MamCecil Powell Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Cadlywydd Urdd y Tŵr a'r Cleddyf, Army Gold Medal, Urdd Filwrol y Tŵr a'r Cleddyf Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yn Poyston Cross yn ne Sir Benfro, yn fab iau i Thomas Picton o Poyston Hall. Ymunodd a'r fyddin yn 1771, fel ensign yn 12fed Catrawd y Troedfilwyr, ond ni welodd frwydro nes iddo gymeryd rhan yng nghipio ynys Sant Lwsia yn 1796. Bu'n llywodraethwr milwrol Trinidad yn y 1790au, lle cafodd yr enw am greulondeb.

Roedd yn bennaeth y 3edd adran yn Rhyfel Iberia ac enillodd gryn enw iddo'i hun. Fodd bynnag, ar ddiwedd y rhyfel nid oedd yn un o'r cadfridogion a wnaed yn arglwyddi. Roedd hyn yn siom fawr iddo, a dychwelodd i sir Gaerfyrddin gyda'r bwriad o geisio dod yn aelod seneddol. Urddwyd ef yn Farchog Groes Fawr Urdd y Baddon yn 1815, a phan ddihangodd Napoleon o Ynys Elba, galwyd ef yn ôl i'r fyddin. Arweiniodd y 5ed Adran yn yr ymladd yn Quatre Bras, lle cafodd ei glwyfo. Er gwaethaf ei glwyf, ymladdodd ym Mrwydr Waterloo, lle lladdwyd ef. Claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain, lle mae cofgolofn iddo. Ceir cofgolofn iddo hefyd yn nhref Caerfyrddin.

Ffigwr Dadleuol golygu

Yn ystod 2020 yn sgil ton o ymateb i brotestiadau lladd George Floyd a'r mudiad Black Lives Matter codwyd cwestiynau ar addasrwydd cofebau i Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ac ym Maes Picton, Caerfyrddin [1] oherwydd ei gysylltiadau gyda chaethwasiaeth gan gamdrin caethwaesion pan oedd yn Lywodraethwr ar Ynys Trinidad yn y Caribî rhwng 1797 a 1803 gan gynnwys, cael ei gyhuddwyd ef o lofruddio Louisa Calderon.[2]

Ar nos Iau 23 Gorffennaf, pleidleisiodd cynghorwyr Cyngor Dinas Caerdydd dros symud y cofeb i Picton yn Neuadd y Ddinas oddi yno. Pleidleisiodd cynghorwyr 57 o blaid symud y cerflun, 5 yn erbyn, a 9 yn ymatal y bleidlais.[3] Nodwyd bod Cyngor Tref Caerfyrddin am drafod y maen hir i Picton hefyd.[4]

Darllen Pellach golygu

Cyfeiriadau golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Owen
Aelod Seneddol Penfro
18131815
Olynydd:
John Jones