Thomas Powell

clerigwr

Clerigwr a llenor Cymreig oedd Thomas Powell (c. 160831 Rhagfyr 1660). Fe'i cofir yn bennaf fel cyfieithydd i'r Saesneg. Roedd yn gyfaill i'r brodyr Thomas a Henry Vaughan.

Thomas Powell
Ganwyd1608 Edit this on Wikidata
Sir Frycheiniog, Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farw31 Rhagfyr 1660 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethclerig Edit this on Wikidata
Erthygl am y clerigwr a llenor o'r 17eg ganrif yw hon, am yr ysgolhaig Celtaidd gweler Thomas Powel.

Bywgraffiad golygu

Ganed Powell ym mhlwyf y Cantref, Brycheiniog yn 1608 (yn ôl pob tebyg). Astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle cyfarfu gyda Thomas a Henry Vaughan am y tro cyntaf. Etifedodd reithoriaeth y Cantref gan ei dad ond bu anghydfod rhyngddo a'r awdurdodau yng nghyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr a bu rhaid iddo adael Cymru a byw tramor am dymor.[1]

Mae ei waith llenyddol yn cynnwys cyfieithiad o'r Eidaleg o lyfr gan Malvezzi wrth y teitl Christian Politician a'r Elementae Opticae (1651). Cyhoeddodd un llyfr Cymraeg, sef Cerbyd Iechydwriaeth (1657), traethawd sy'n adlewyrchu ei farn am anghyfiawnder y wladwriaeth Biwritanaidd. Credir mai ef hefyd a gyhoeddodd Olor Iscanus ei gyfaill Henry Vaughan yn 1654, cyfrol o farddoniaeth a ystyrir yn un o glasuron Saesneg yr 17g.[2]

Gadawodd lawysgrifau ar ei ôl sy'n amlygu ei ddiddordeb yn hynafiaeth y Cymry a'r Celtiaid.

Llyfryddiaeth golygu

  • Christian Politician (d.d.)
  • Elementae Opticae (1651)
  • Cerbyd Iechydwriaeth (1657)
  • Humane Industry (1661). Cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.