Esgob Henffordd ar ddiwedd y 14g a throad y 15g oedd Thomas Trefnant neu Thomas Trevenant (bu farw 29 Mawrth, 1404). Roedd yn Gymro o'r Gororau.[1]

Thomas Trefnant
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1404 Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Henffordd, esgob esgobaethol Edit this on Wikidata

Treuliodd gyfnod fel Canon Llanelwy a Lincoln. Cafodd ei enwebu i fod yn esgob Henffordd ar 5 Mai 1389 a'i gysegru yn y swydd ar 20 Mehefin 1389, gan olynu John Gilbert. Bu farw yn y swydd ar 29 Mawrth 1404.[2] Ei olynydd oedd Robert Mascall.

Cynhaliwyd prawf llys Gwallter Brut, y Lolard o Gymro a gyhuddwyd o heresi, dan ofal Thomas Trefnant yn Henffordd yn 1390. Un o'r twrneiod ar ran yr eglwys yn yr achos oedd Adda o Frynbuga, sy'n enwog am ei Gronicl.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Davies, R. G. (2004). "Trefnant [Trevenant], John (d. 1404)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/41197.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  2. Fryde, Handbook of British Chronology (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1996), tud. 251.
Rhagflaenydd:
John Gilbert
Esgob Henffordd
13891404
Olynydd:
Robert Mascall