Archesgob, gwladweinydd ac yn gardinal yn yr Eglwys Gatholig oedd Thomas Wolsey (c. Mawrth 147329 Tachwedd 1530).[1] Ganwyd ef yn Ipswich, Suffolk. Pan ddaeth Harri VIII i’r orsedd fel Brenin Lloegr yn 1509, penodwyd Wolsey yn almonwr neu elusennwr y Brenin, sef unigolyn yn yr eglwys a arferai ddosbarthu arian i’r tlawd haeddiannol.[2] Llwyddodd Wolsey yn ei waith ac erbyn 1514 roedd yn unigolyn dylanwadol mewn llawer o faterion yn ymwneud â’r wladwriaeth. Roedd ganddo hefyd swyddi pwysig o fewn yr Eglwys - er enghraifft, fel Archesgob Caerefrog, yr ail swydd bwysicaf yn Eglwys Lloegr, yn ogystal â bod yn Llysgennad i’r Pab. Roedd ei benodiad fel cardinal gan y Pab Leo X yn 1515 wedi rhoi blaenoriaeth iddo dros holl glerigaeth Lloegr.

Thomas Wolsey
Ganwyd1473 Edit this on Wikidata
Ipswich Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 1530 Edit this on Wikidata
Caerlŷr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethbarnwr, gwleidydd, offeiriad Catholig, gwladweinydd, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddArglwydd Ganghellor, cardinal, Roman Catholic Bishop of Lincoln (England), Roman Catholic archbishop of York, gweinyddwr apostolaidd, gweinyddwr apostolaidd, gweinyddwr apostolaidd Edit this on Wikidata
TadRobert Wolsey Edit this on Wikidata
MamJoan Edit this on Wikidata

Y swydd wleidyddol bwysicaf a roddwyd i Wolsey oedd swydd yr Arglwydd Ganghellor, sef prif gynghorwr y Brenin. Rhoddodd y swydd honno lawer o ryddid iddo, ac roedd hyd yn oed yn cael ei ystyried fel alter rex (neu’r brenin arall). Wedi iddo fethu sicrhau ysgariad y Brenin Harri oddi wrth Catrin o Aragon, collodd Wolsey ffafr y Brenin, a thrwy hynny ei holl swyddi a theitlau llywodraethol. Aeth yn ôl i Gaerefrog er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau gyda’r Eglwys fel archesgob, swydd roedd wedi ei hesgeuluso pan oedd yn gweithio i’r llywodraeth. Cafodd ei alw'n ôl i Lundain er mwyn ateb y cyhuddiadau yn ei erbyn, sef teyrnfradwriaeth. Roedd y rhain yn gyhuddiadau y byddai Harri yn aml yn eu rhoi gerbron unigolion oedd wedi colli ei ffafr, ond bu Wolsey farw ar y daith yn ôl oherwydd afiechyd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Armstrong, Alastair (2008). Henry VIII - Authority, Nation and Religion, 1509-1540 (yn Saesneg). Pearson Education. ISBN 978-0-435-30810-0.
  2. Matthew, H. C. G.; Harrison, B., eds. (2004-09-23), "The Oxford Dictionary of National Biography", The Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press): pp. ref:odnb/29854, doi:10.1093/ref:odnb/29854, http://www.oxforddnb.com/view/article/29854, adalwyd 2020-09-07
  3. "Wolsey, Thomas (1470/71–1530), royal minister, archbishop of York, and cardinal". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/29854. Cyrchwyd 2020-09-07.