Y thyroid yw un o chwarennau endocrin mwya'r corff, sydd wedi'i lleoli yn y gwddw ychydig is nag afal brunant, mewn dynion. Ei bwrpas ydy rheoli pa mor gyflym mae'r corff yn llosgi egni, gwneud proteinau a rheoli sensitifrwydd y corff i hormonau eraill.

Thyroid
Enghraifft o'r canlynolmath o organ, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathorgan llabedog, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan oSystem endocrinaidd Edit this on Wikidata
Cynnyrchthyroid hormone, desiccated thyroid extract Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Prif chwarennau'r endocrin: (Gwryw ar y chwith, benyw ar y dde)
1 Corffyn pineol 2 Chwarren bitwidol 3 Y chwarren theiroid 4 Hypothalmws 5 Chwarren adrenal 6 Pancreas 7 Ofari 8 Y ceilliau

Mae'n gwneud hyn drwy gynhyrchu hormonau thyroid, thyrocsin (T4) a triiodothyronin (T3) gan fwyaf. Yr hormonau hyn sy'n rheoli cyfradd y metabolaeth ac maent yn effeithio ar dwf a chyflymder llawer o systemau eraill yn y corff. Ceir ïodin a tyrosin mewn T3 a T4. Mae'r thyroid hefyd yn medru cynhyrchu calsitonin, sy'n chwarae rhan mewn homeostasis calsiwm.

Yr hypothalamws a'r chwarennau bitwidol sy'n rheoli'r thyroid. Daw'r enw o'r hen air Groeg am 'darian' oherwydd fod y cartilag thyroid o siâp tebyg i darian Groegaidd. Gall y thyroid ar adegau orweithio neu dangyflawni, dau o'r problemau mwyaf cyffredin.

Mae dau ddiffyg neu broblem a all godi ar y thyroid: y thyroid yn gorweithio ac yn tanweithio. Gelwir y diffygion hyn yn 'hyperthyroid' - pan mae'r thyroid yn gorweithio, a 'hypothyroid' pan mae'r thyroid yn tanweithio.

Cyfeiriadau golygu